Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ward Pantomime
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR289-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Wrecsam Maelor
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Clinig Diagnosis Cyflym - Arbenigwr Nyrsio Clinigol
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Ward Pantomeim yn Ward Gastroenteroleg a Meddygol Cyffredinol 27 gwely. Mae'r tîm yn chwilio am rywun a fydd yn arwain gyda thosturi ac arbenigedd clinigol. Bydd angen y gallu i fabwysiadu sgiliau cyfathrebu gwych er mwyn cynnal a pharhau i ddatblygu'r ward ymhellach.
Fel Rheolwr y Ward, byddwch yn gyfrifol am reoli'r ward, hyrwyddo profiad cadarnhaol i gleifion a staff ac arwain ar ddarparu gofal nyrsio rhagorol. Mae'r rôl hon yn gofyn am berthynas waith agos gydag ystod eang o bobl gan gynnwys y Tîm Amlddisgyblaethol, Ymgynghorwyr, Penaethiaid Nyrsio, Matronau a Rheolwyr Ward eraill.
Ochr yn ochr â'r datblygiad proffesiynol parhaus clinigol, gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyl datblygu eu sgiliau arwain a rheolaethol. Goruchwylio tîm bywiog a chefnogi eu hymarfer drwy bresenoldeb clinigol cryf. Ymdrechu i gyflawni amcanion lleol a Chenedlaethol.
Os ydych chi'n chwilio am her newydd, i ddatblygu eich gyrfa a chael sgiliau newydd ac yn gyfathrebwr rhagorol, yn meddwl ymlaen ac yn angerddol am ddarparu gofal o ansawdd. Rydym yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol am y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
§ Cyfrifoldeb parhaus dros reoli nyrsio 24 awr ar y ward Lawfeddygaeth / Meddygaeth Lem.
§ Yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal i'r holl gleifion mewn ardaloedd dynodedig.
§ Yn atebol am ansawdd y gofal a roddir yn y maes clinigol gan nyrsys
§ Cydweithio a chydweithredu ag eraill i ddatblygu gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cleifion yn yr ardal glinigol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elinor Jones
- Teitl y swydd
- Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 847435
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector