Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapïau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 9 mis (Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026 - efallai y gellir ei ymestyn)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS194-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £24,625 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cymhorthydd Dieteteg - Iechyd y Cyhoedd
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL AM 9 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn maeth ac iechyd, ac yn edrych i ddatblygu eich sgiliau mewn rôl gyffrous? Yna dewch i ymuno â'n tîm Dieteteg deinamig sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru!
Mae cyfle gwych wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Deieteg Band 3 (rhan amser neu amser llawn) i gefnogi darpariaeth ein Gwasanaeth Deieteg Iechyd Cyhoeddus yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd y Cynorthwy-ydd Deieteg yn gweithio gyda’r Dietegwyr a chyd-aelodau’r tîm i gefnogi gweithredu, darparu a gwerthuso arfer gorau mewn perthynas â Maeth Iechyd y Cyhoedd, gan weithio fel aelod annatod o, ac mewn partneriaeth â thimau cymunedol aml-asiantaeth. Byddwch yn gweithio gyda thîm sefydledig sy'n ymroddedig i ddarparu rhaglenni a gweithgareddau bwyd a maeth gyda sicrwydd ansawdd fel rhan o Sgiliau Maeth am OesTM. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’n gweithiwr cymorth dietetig presennol i gyflwyno cyrsiau a sesiynau arobryn yn y gymuned, fel ‘Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn’, ‘Dewch i Goginio’, a ‘Bwyta’n Glyfar Arbed yn Well’.
Byddwch hefyd yn rhan o'r adran ddeieteg ehangach, gan ymuno â thîm brwdfrydig a chyfeillgar sy'n darparu gwasanaethau mewn gofal aciwt, gofal sylfaenol ac iechyd y cyhoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn cynorthwyo'r tîm dieteteg i weithredu rhaglenni bwyd a maeth sy'n canolbwyntio ar atal ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Mae hyn yn cynnwys darparu addysg faeth a chyrsiau coginio ymarferol i amrywiaeth o grwpiau cymunedol.
Fel Cynorthwy-ydd Deieteg, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau penodol o ran cyflawni gweithgareddau iechyd cyhoeddus dirprwyedig yn annibynnol gyda defnyddwyr gwasanaethau dieteteg dethol yn y gymuned, gan weithio dan oruchwyliaeth reolaidd Deietegwyr Cofrestredig, a chefnogi'r Dietegwyr yn rhagweithiol gyda dyletswyddau clerigol a gweinyddol priodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad

Sgiliau

Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alys Roberts
- Teitl y swydd
- Team Lead Public Health Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
Harriet Williams (Pennaeth Ardal Dietetig )
07966 514 004
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector