Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapïau Seicolegol
- Gradd
- Band 8d
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun -Dydd Gwener tua trideg pewdar awr
- Oriau
- Rhan-amser - 34 awr yr wythnos (Dydd Llun -Dydd Gwener tua trideg pewdar awr)
- Cyfeirnod y swydd
- 130-PST021-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol Cimla Cimla Castellnedd SA11 3SU
- Tref
- Castellnedd
- Cyflog
- y flwyddyn pro rata
- Yn cau
- 08/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Arweinydd Lymffoedema Cenedlaethol ar gyfer Therapïau Seicolegol
Band 8d
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Chi fydd yr unig Ymgynghorydd Seicoleg penodol ar gyfer Lymffoedema yn y Deyrnas Unedig a bydd yn ofynnol i chi gyflwyno llwybrau clinigol ar gyfer Therapïau Seicolegol i bobl sydd â Lymffoedema a Lipoedema/Lipalgia. Byddwch yn ymuno â’r Tîm Lymffoedema Cenedlaethol sefydledig ac arobryn gan gefnogi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd ac osgoi amrywio diangen er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon.
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol a strategol sy’n cyfrannu at ddatblygu fframweithiau strategol a gweithredol ar gyfer rheoli, asesu a gweithredu gwasanaethau therapi seicolegol o ansawdd uchel, wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Bydd gennych lwyth achosion clinigol arbenigol iawn, gan gynnwys sesiynau grŵp ac ymyriadau unigol rhithwir ac wyneb yn wyneb. Mae Lymffoedema Cymru yn gweld plant ac oedolion, felly bydd llwyth achosion cymysg.
Byddwch yn datblygu strategaethau a chynlluniau gwasanaeth, yn cwblhau gwerthusiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru a ddarparodd y cyllid, ac yn sicrhau bod targedau cenedlaethol yn cael eu bodloni gyda mesuriadau gwrthrychol priodol, a mesurau canlyniadau a phrofiadau a adroddir gan gleifion. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Ymchwilwyr Lymffoedema Cenedlaethol gan sicrhau bod y data a gesglir gan gynnwys cyflwyniadau mewn cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol.
Cynhelir y swydd hon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ond rôl genedlaethol ydyw ar gyfer Cymru gyfan.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn helpu i ddatblygu’r Gweithlu Therapi Seicolegol ar draws Lymffoedema Cymru, gan uwchsgilio staff lymffoedema presennol a gweithio gyda seicolegydd arall i gefnogi strwythurau mentora, goruchwylio a llywodraethu. Bydd hyn hefyd yn cynnwys goruchwylio myfyrwyr Seicoleg ledled Cymru.
Datblygu Cynllun Strategol Seicoleg ar gyfer Lymffoedema Cymru a chreu bwrdd i gefnogi’r rhaglen.
Dehongli canllawiau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol ar ymyriadau seicolegol er mwyn datblygu cynlluniau o fewn Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru i gyflwyno Therapi Seicolegol yn unol â Matrics Cymru.
Gweithredu fel adnodd arbenigol gan ddarparu arbenigedd, arweiniad a gwasanaeth ymgynghori datblygedig i broffesiynau, asiantaethau a rhanddeiliaid eraill yn seiliedig ar dablau tystiolaeth cenedlaethol a strategaethau ar gyfer darparu therapïau seicolegol. Meithrin partneriaethau cadarnhaol ag asiantaethau allanol a sefydliadau partner y GIG.
Gweithio i'n sefydliad
Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglyn a dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar. Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi. Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael. Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl. Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person yn y dogfennau ategol neu cliciwch 'ymgeiso nawr' i'w gweld ar Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant ol-raddiedig seicoleg, gan gynnwys cymwysterau mewn maes ymarfer arbenigol a chofrestru
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ffurfiol mewn cofrestr o oruchwylwyr ymarfer / arweinyddiaeth ffurfiol / achredu gyda BABCP/UKCP
profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o oruchwylio/gweirio cleientiaid/gweithio gyda thim amlddisgyblaethol/ rolau arwain gan gynnwys plant ac oedolion
Meini prawf dymunol
- Cyflwyniadau/cyhoeddi
- Profiad Lymffoedema/ gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth
- Gwaith pwyllgor/ cadeirio/ gwaith cenedlaethol
Abilities
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau mewn dulliau cymhleth o aseiadau a thriniaeth seicolegol gan gynnwys deddfwriaeth/ theori ac ymarfer seicolegol
- Dealltwriaeth lefel doethuriaeth o ymchwil
- Sgiliau PC
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Brwdfrydess/ chwaraewr tim a cymhelliant
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Melanie Thomas
- Teitl y swydd
- Clinical Director Lymphoedema Wales
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01639 862767
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dr Melanie Thomas MBE DProf FCSP
Cyfarwyddwr Clinigol Rhwydwaith Lymffoedema Cymru
Canolfan Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol Cimla
Cimla
Castellnedd
SA11 3SU
Ffôn: 01639 862767
ebost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector