Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysgrifennydd
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener (09:00 - 17:00))
Cyfeirnod y swydd
100-AC119-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Adnoddau Wellfield Heol
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm (Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu)

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Tîm Gweinyddu yn rôl Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol ym Mharcyffynnon, Caerfyrddin.

Yn hanfodol i'r rôl y mae profiad o amrywiaeth o systemau TG, sy'n cynnwys Microsoft Word, rheoli Excel, casglu data, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaeth, gweithredu ein systemau gweinyddu cleifion, (WPAS) a Care Partner, a derbyn a dosbarthu post.

Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus brosesu atgyfeiriadau a chynnal cronfa ddata fanwl gywir. Bydd disgwyl iddo amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu ei ffordd o weithio. Rhaid iddo allu gweithio ar ei fenter ei hun, gan arddel doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau 
cyfathrebu rhagorol.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o safon i'r tîm, ynghyd â chyflenwi pan fydd staff gweinyddol yn absennol.

Gall y rôl hefyd gynnwys teithio i safleoedd eraill yn y Gyfarwyddiaeth, a gweithio yno, er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.  

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  

Cynhelir y cyfweliadu ar 30/04/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ3/RSA III neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth weinyddol/swyddfa
Meini prawf dymunol
  • ECDL neu brofiad a/neu gymwysterau cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gyfarwydd a phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
  • Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
  • Profiad o gynnal taenlenni, cronfeydd data
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG
  • Profiad o systemau gweinyddu cleifion
  • Profiad o gymryd a thrawsgrifio cofnodion cyfarfodydd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Michelle Morris
Teitl y swydd
Directorate Administration Manager MH&LD
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Simon Jones

Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol (CDAT) Arweinydd y Tîm 

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg