Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP035-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/05/2025
Teitl cyflogwr

Radiograffydd Arbenigol - CT
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Oherwydd bod y gwasanaethau'n cael eu hehangu, mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am Radiograffydd CT profiadol.
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar BSc/ byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol CT.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili; fodd bynnag, bydd disgwyl iddynt fod yn hyblyg yn eu hagwedd at anghenion y gwasanaeth, ac efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Mae'n swydd lawn-amser, a rhoddir ystyriaeth i weithio rannu swydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn diwrnodau estynedig a'r rota y tu allan i oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur, sydd â statws trawma mawr ar gyfer Gorllewin Cymru. Mae gan yr adran gyfarpar da, gan gynnwys sganiwr CT GE 750HD a Canon Aquilion Prism a osodwyd yn ddiweddar ym mis Ionawr 22. Rydym yn cyflawni'r ystod lawn o archwiliadau, gan gynnwys Angiograffeg Coronaidd CT.
Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Aera 1.5T, ac mae hwn yn cyflawni pob archwiliad, gan gynnwys sesiwn Bediatrig Anesthetig Cyffredinol bwrpasol bob pythefnos. Mae gan yr adran gyffredinol dwy ystafell Samsung DR a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn ddigidol. Mae ystafell fflworosgopi Siemens Artis Zee yn hwyluso cholangiopancreatograffiaeth ôl-redol endosgopig (ERCP), mewnosod rheolyddion calon parhaol a dros dro, hysterosalpingograffeg ac astudiaethau asesu llyncu.
Anogir ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, ffilm blaen, gwaith adrodd Radiograffwyr CT ac MRI, a chyfleoedd argyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain.
Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT, ac o gartref ar gyfer MRI. Mae cymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad yn orfodol ar ôl cwblhau'r hyfforddiant a'r broses gynefino. Mae staff pob dull yn gweithio diwrnodau estynedig a phenwythnosau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 07/05/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ôl-raddedig
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
- Cymhwyster ôl-raddedig
- Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mammography
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
- Sgiliau Radiograffeg
- Profiad sylweddol mewn archwiliadau arbenigol (CT/MR)
- Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Tystiolaeth o ddatblygu rôl
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Watt
- Teitl y swydd
- CT Superintendent Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227556
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector