Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP030-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/04/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/04/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am ffisiotherapyddion profiadol i ymuno â'n gwasanaeth strôc sy'n datblygu'n gyflym yn Sir Gaerfyrddin, gan gefnogi prosesau i adferiad aciwt a ryddhau cleifion yn gynnar o'r ysbyty.

Os oes gennych wir frwdfrydedd dros adsefydlu cleifion strôc gan weithio ledled y llwybr strôc, gallai hwn fod y cyfle i chi. Byddwch yn rhan o Wasanaeth Therapi Rhyddhau’n Gynnar â Chymorth y Bwrdd Iechyd, a byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin yn cefnogi'n bennaf bobl sydd wedi cael strôc i ddychwelyd adref o’n hunedau strôc acíwt.

Nod y rôl fydd darparu gofal adsefydlu yn yr ysbyty ac yn y gartref er mwyn cefnogi'r broses bontio o’r ysbyty i ddychwelyd i annibyniaeth. Er mwyn darparu llwybr adsefydlu a thrawsnewid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â’r timau strôc acíwt a chymunedol sefydledig (mewngymorth ac allgymorth) i sicrhau parhad gofal da.

Rydym yn hysbysebu am un deiliad swydd –  cadarnhau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Physiotherapist video - https://youtu.be/lCLodWLSY3k  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus rywfaint o brofiad o weithio gyda phobl sydd wedi profi strôc a/neu ddigwyddiadau eraill sydd wedi newid eu bywyd, ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm amlbroffesiynol mewn yr ysbyty a'r lleoliad cymunedol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr a gwasanaethau acíwt a chymunedol i greu llwybr adsefydlu cydgysylltiedig a phrofiad cadarnhaol ar gyfer ein poblogaeth.

Er bod y rôl yn canolbwyntio ar strôc, mae arnom angen therapyddion sy'n gallu addasu i ddiwallu anghenion cleifion â chyflyrau amryfal ac amrywiol a bodloni blaenoriaethau'r gwasanaeth. Oherwydd natur y rôl bydd angen i chi allu teithio o fewn y sir, yn ogystal â bod yn hyblyg i deithio ledled y Bwrdd Iechyd yn achlysurol.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol o ran gweithio wythnos saith niwrnod.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 30/04/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
  • Tystiolaeth o DPP
  • Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
  • Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
  • Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Wedi cwblhau'r cymhwysedd fframwaith iau
  • Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
  • Trin therapiwtig ac asesiadau risg
  • Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
  • Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tîm
  • Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
  • Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddatblygu gwasanaethau
  • Profiad o weithio yn y GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Richards
Teitl y swydd
Clincial Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283256
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Arweinwyr y Gwasanaeth Ffisiotherapi:

Hannah Thomas - [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg