Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfleusterau
Gradd
Gradd 3
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 06/02/2026 Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Rota i gynnwys gweithio unrhyw 5 diwrnod allan o 7 i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, ar rota rholio 6 wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-EA005-0325-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Y Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad tan 06/02/2026 oherwydd er mwyn cwrdd ag anghenion y gwasanaeth.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal a fyddai’n gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau glanhau a chadw tŷ yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Yr oriau gwaith yw 22.5 awr yr wythnos, yn gweithio pum niwrnod allan o saith, yn ôl trefn rota, yn cynnwys gwyliau banc a phenwythnosau.

Os ydych yn mwynhau her, yna gallai hon fod y rôl i chi.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion brwdfrydig ac ymrwymedig sy'n gweithio'n galed, yn llawn cymhelliant, yn flaengar ac yn arloesol

Mae'r swydd yn un heriol, a bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad perthnasol o weithrediadau glanhau ar raddfa fawr. Byddai cymhwyster perthnasol ar lefel NVQ 3 neu lefel gyfatebol yn fantais, neu bydd parodrwydd i astudio hyd at y lefel hon yn ofyniad hanfodol. 

Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio rhwng 7am a 10 pm, a bydd y gallu i weithio'n hyblyg yn ôl y gofyn yn hanfodol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg i weithio lle bynnag y mae'r galw yn yr Adran Cyfleusterau Gwesty.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). 
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 06/05/2025.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel dda o addysg gyffredinol
  • NVQ lefel 3 neu gymhwyster brofiad, sgiliau a gwybodaeth gyfatebol mewn perthynas â thasgau glanhau/goruchwylio gwaith glanhau
  • Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud, Codi a Chario, a gwybodaeth am HACCP
  • Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm neu gymhwyster cyfatebol
  • Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2
  • Tystysgrif Hyfforddi
  • Hyfforddiant ar Oruchwylio
  • Tystysgrif IOSH
  • Gwybodaeth am drefniadau Atal a Rheoli Haint

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddelio a'r cyhoedd
  • Profiad o oruchwylio/arwain tim
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Profiad o oruchwylio mewn sefydliad tebyg
  • Profiad o ddyletswyddau glanhau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol, yn ôl y gofyn
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrew Kelly
Teitl y swydd
Operations Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227959
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fwy o wybodaeth am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Goruchwylwyr Cyfleusterau'r Gwesty ar 01970 635723 rhwng 07:00 a 20:00.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg