Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR119-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/04/2025
Teitl cyflogwr

Cyn-asesu ac Endosgopi Arweiniol JAG
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrois i ymuno â'n gwasanaeth Cyn-asesu Endosgopi a'i arwain. Mae'n wasanaeth cymharol “ifanc” a'r cyntaf yng Nghymru i ddarparu'r math hwn o ofal i'n cleifion.
Byddwch yn mynd ati mewn modd effeithiol i reoli'r cymysgedd sgiliau yn y tîm nyrsio ac adnoddau eraill er mwyn darparu gofal diogel, effeithlon, o safon uchel i'r cleifion sydd wedi cofrestru i gael triniaethau endosgopi.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r timau amlddisgyblaethol, yn cynnwys prif nyrsys endosgopi, rhestrau aros, meddygon teulu, a meddygon ymgynghorol.
Yn rôl Nyrs Arweiniol y Grŵp Cynghori ar y Cyd, bydd deiliad y swydd yn goruchwylio llwybr achredu y Grŵp Cynghori ar y Cyd o'r dechrau i'r diwedd, gan sicrhau bod y broses asesu'n cael ei rheoli mewn modd effeithiol ac yn unol â safonau ansawdd uchel ledled holl unedau'r Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn arwain y broses o ddarparu cyngor arbenigol mewn perthynas â safonau gofynnol y Grŵp Cynghori ar y Cyd, e.e. rheoli archwiliadau, canllawiau, trefniadau gweithredu safonol, taflenni i gleifion, a gwelliannau i'r gwasanaeth.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/04/25
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am ddarparu gofal effeithiol ac effeithlon i gleifion y gwasanaeth cyn-asesu ledled y Bwrdd Iechyd ar safleoedd dynodedig y Bwrdd.
Byddwch yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol a byddwch yn gallu darparu arweinyddiaeth glinigol, bod yn fentor ac yn esiampl dda, rheoli gofal cymhleth i gleifion, ac arwain y gwasanaeth cynasesu endosgopi.
Darparu cyngor clinigol arbenigol ac optimeiddio elfennau cyn llawdriniaeth y gwasanaeth gofal amdriniaethol i gleifion, gan gysylltu ag endosgopyddion a chlinigwyr i hyrwyddo diwylliant gwaith tîm.
Darparu arweinyddiaeth glinigol, reoleiddiol a phroffesiynol i'r holl staff yn y gwasanaeth cyn-asesu.
Cefnogi aelodau'r tîm ehangach i gyflawni eu prosiectau, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a gweithdrefnau.
Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio llwybr achredu y Grŵp Cynghori ar y Cyd o'r dechrau i'r diwedd, gan sicrhau bod y broses asesu'n cael ei rheoli mewn modd effeithiol ac yn unol â safonau ansawdd uchel ledled pob un o'r pedair uned yn y Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol sy'n ymwneud â materion nyrsio ar gyfer y Grŵp Cynghori ar y Cyd. Byddwch yn sicrhau eich bod yn gwybod beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ganllawiau newydd o ran rhaglen achredu y Grŵp Cynghori ar y Cyd.
Byddwch yn cynrychioli unedau Endosgopi ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac yn llysgennad ar eu cyfer
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Gyffredinol Lefel 1; cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- BSc mewn pwnc perthynol i iechyd/yn barod i weithio tuag at hynny
- Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud â Gwasanaethau Cyn-asesu
- Cymwysterau rheoli arbenigol perthnasol hyd at lefel diploma ôlraddedig
- Ymwybyddiaeth o'r newidiadau cyfredol ym maes addysg cyngofrestru
- Gwybodaeth am reoli personél
- Dealltwriaeth gyllidebol
- Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch/Risgiau
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol
- Dealltwriaeth o lywodraethu clinigol
- Gwybodaeth am brosesau'r Grŵp Cynghori ar y Cyd a'r Polisïau Cenedlaethol sy'n berthnasol i Endosgopi, i gynnwys y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol (NEP), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC), Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru (WAGE), a Chymdeithas Gastroenteroleg Prydain (BSG)
- Gwybodaeth am System Hyfforddi Endosgopi y Grŵp Cynghori ar y Cyd (JETS) a'r modd y mae'n cyd-fynd â'r agenda nyrsio, ynghyd â phortffolio cyflawn
- Wedi cwblhau cyrsiau Endo 1, 2 a 3
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Nyrs-bresgripsiynydd
- IOSHH
- Aelodaeth Glinigol neu Nyrsio Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain
- Cymhwyster rheoli
- e.e. Rhaglen Arweinyddiaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth/y Coleg Nyrsio Brenhinol
- Cymhwyster Arweinyddiaeth Glinigol
- Hyfforddiant ar drais – lefel 3
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestredig mewn maes perthnasol
- Profiad o arwain/reoli
- Gwybodaeth amlwg am dargedau Atgyfeirio a Thriniaeth
- Profiad o weithio mewn amgylchedd endosgopi sydd ag achrediad y Grŵp Cynghori ar y Cyd
Meini prawf dymunol
- Parodrwydd i ymgymryd â mentrau datblygu arweinyddiaeth
- Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud â gofal nyrsio mewn gwasanaeth Endosgopi
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emilia Jurgielewicz
- Teitl y swydd
- Endoscopy Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815480745
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector