Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysgrifennydd
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (09:00am - 17:00pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC121-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Adnoddau Gorwelion
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 29/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/05/2025
Teitl cyflogwr

Ysgrifennydd y Tîm / Gweinyddwr (MH&LD)
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Tîm Gweinyddol yn rôl Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm ar gyfer y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol sydd wedi'i leoli yn Canolfan Adnoddau Gorwelion, Aberystwyth.
Mae profiad o amrywiaeth o systemau TG, sy'n cynnwys Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol, yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys cael a dosbarthu post, bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaeth, a gweithredu system gweinyddu cleifion (WPAS) a Care Partner.
Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus brosesu atgyfeiriadau a chynnal cronfa ddata fanwl gywir. Bydd disgwyl iddo amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu ei ffordd o weithio. Rhaid iddo allu gweithio ar ei fenter ei hun, gan arddel doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus roi cymorth i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o safon i'r tîm, ynghyd â darparu gwasanaeth cyflenwi pan fydd staff gweinyddol yn absennol.
Gall y rôl hefyd gynnwys teithio i safleoedd eraill yn y Gyfarwyddiaeth, a gweithio ynddynt, er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 07/05/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ3/RSA III neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth weinyddol/swyddfa
Meini prawf dymunol
- ECDL neu brofiad a/neu gymwysterau cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gyfarwydd a phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Cyfarwydd a hyderus Defnyddio E-bost a Chwilio y rhyngrwyd
- Profiad o gynnal taenlenni, cronfeydd data
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
- Profiad o systemau gweinyddu cleifion
- Profiad o gymryd a thrawsgrifio cofnodion cyfarfodydd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bronwyn Coltman
- Teitl y swydd
- Admin Manager MH&LD
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector