Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiograffeg
- Gradd
- Band 5
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 30/04/2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP034-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/05/2025
Teitl cyflogwr

Radiograffydd
Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 30/04/2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth yn bwriadu recriwtio Radiograffydd Diagnostig Band 5 parhaol llawn-amser brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm radioleg am gontract cyfnod penodol o 12 mis i dalu absenoldeb mamolaeth.
Wedi’i leoli yn Aberystwyth, Ceredigion yng Nghanolbarth Cymru, mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn darparu delweddu diagnostig i ardal ddaearyddol eang, gan gynnwys poblogaeth myfyrwyr ein prifysgol leol a’r twristiaid niferus sy’n ymweld â’r ardal hardd hon trwy gydol y flwyddyn.
Mae Ceredigion yn ardal yng nghanolbarth Cymru na ŵyr neb lawer amdani, sydd ag adnoddau arfordirol a chefn gwlad lleol rhagorol, a lle i fwynhau bywyd i'r eithaf gyda chydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mae'r adran yn ymrwymedig i ddatblygu ac ehangu rolau ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys radiograffwyr adrodd a hyfforddiant mewn mamograffeg ac uwchsain.
Ar hyn o bryd, mae gennym radiograffwyr adrodd ym maes delweddu ffilm blaen, CT, MRI ac Uwchsain.
Mae yna raglen DPP fewnol effeithiol, ac mae gan y Bwrdd Iechyd gysylltiadau cryf ag Ysgolion Radiograffeg Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r cyllid buddsoddi helaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi ein galluogi i newid llawer o'n cyfarpar ac i adnewyddu'r adran.
Mae gan yr adran Radioleg dair ystafell pelydr-x DR, sganiwr CT Canon Aquilion, uned Mamograffeg Hologic, sganiwr Dexa, pedair ystafell uwchsain, ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee a sganiwr MRI Siemens Sola.
Byddai'r swydd hon wedi'i lleoli ym maes Radioleg Gyffredinol sy'n cwmpasu Fflworosgopeg, Symudol, Theatrau, Deintyddol a'r ystafelloedd radiograffeg digidol – gan gynnwys yr adran damweiniau ac achosion brys.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan radiograffwyr sydd newydd gymhwyso.
Mae system ar alwad y tu allan i oriau ar waith yn y gwasanaeth Radioleg. Byddai cymryd rhan yn y system hon yn orfodol ar ôl cwblhau'r hyfforddiant.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, ac wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei leoli yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais; fodd bynnag, byddai disgwyl iddo fod yn hyblyg yn ei agwedd at anghenion y gwasanaeth, ac efallai y bydd gofyn iddo weithio ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 08.05.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
- Radiographer skills commensurate to role
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Edwards
- Teitl y swydd
- Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector