Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopydd
Gradd
Gradd 8a
Contract
Secondiad: 2 flynedd (Yn unol â'r cyllid sydd ar gael)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
7.5 awr yr wythnos (Model gweithio ystwyth i ganiatáu hyblygrwydd rhwng gweithio gartref a gweithio yn y swyddfa.)
Cyfeirnod y swydd
082-NMR003-0425
Cyflogwr
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Tref
Nantgarw
Cyflog
£54,550 - £61,412 Y Flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) logo

Arweinydd Endosgopydd Clinigol Academi Endosgopi Cymru

Gradd 8a

 

 

Trosolwg o'r swydd

Rydym am benodi Arweinydd Endosgopydd Clinigol profiadol ar gyfer Academi Endosgopi Cymru. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i lunio dyfodol hyfforddiant endosgopi yng Nghymru, gan gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol gweithlu’r GIG tra’n sicrhau’r safonau uchaf o ran darparu a llywodraethu hyfforddiant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Rhaglen a thîm y rhaglen i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi o ansawdd uchel, gan gynnwys Rhaglen Hyfforddi 10 Llwybr Endosgopi, a chefnogi datblygiad proffesiynol endosgopyddion clinigol a'r gweithlu ehangach trwy gyrsiau academi a rhaglenni a achredir gan JAG. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Nyrs Arweiniol Endosgopi.

Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig fel cyfle secondiad yn unig. Os dymunwch wneud cais, rhaid i chi gael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell cyn ymgeisio. Mae’r swydd hon am gyfnod secondiad penodol ond gellir ei hymestyn neu ei gwneud yn barhaol ar ddiwedd y cyfnod secondiad yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael a’r gofynion busnes.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr Arweinydd Endosgopydd Clinigol yn ganolog i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi Endosgopyddion Clinigol a chefnogi datblygiad proffesiynol endosgopyddion clinigol ar lefel genedlaethol. Byddant yn cefnogi’r datblygiad ac yn cymryd rôl ganolog yn y tîm darparu ar gyfer ystod o gyrsiau ar gyfer gweithlu Endosgopi’r GIG, cefnogi arweinwyr clinigol gyda gweithredu hyfforddiant, a sicrhau cydymffurfiaeth â chyrsiau achrededig JAG. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys arweinyddiaeth strategol, gan weithio fel rhan o uwch dîm arweinyddiaeth yr academi endosgopi i ddatblygu a mireinio llywodraethu'r Academi, sicrhau ansawdd, a chefnogi'r model hyfforddi hub a spoke. Bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Academi Endosgopi Cymru mewn fforymau a grwpiau allweddol, yn rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid, ac yn cyfathrebu’n effeithiol ar draws partneriaethau.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a  Saesneg ymgeisio.

Gweithio i'n sefydliad

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:

- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,

- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,

- Gyda'n Gilydd fel Tîm

 

Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,

- arweinyddiaeth dosturiol,

- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,

- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.

 

Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gallwch glicio “Ymgeisio nawr” i'w gweld drwy gyfrwng Trac.

 

Mae’r swydd hon am secondiad am2 blwyddyn otherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceiso am swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad eich rheolwer llinell presennol cyn I chi geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd Meistr neu gyfwerth
  • Cofrestriad Proffesiynol Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant
  • Cymhwyster neu brofiad arwain.
  • Gwybodaeth am bolisïau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
  • Gwybodaeth am Ddyletswydd Ansawdd a safonau a phrosesau rheoleiddio gofal iechyd
  • Hyfforddiant achrededig JAG ‘Training The Trainer’
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli prosiect (PRINCE2) neu brofiad cyfatebol.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o weithio yn yr amgylchedd Endosgopi/gastroenteroleg ar Fand 7 neu uwch.
  • Profiad o reoli amodau triniaeth Endosgopig cymhleth
  • Profiad o gyflwyno rhaglenni hyfforddi gydag ymagwedd gyfunol at ddysgu mewn amgylcheddau clinigol/anghlinigol.
  • Profiad o oruchwylio ac asesu ymarfer mewn amgylchedd ymarfer rhyngbroffesiynol.
  • Dealltwriaeth o ofynion a phroses JAG.
  • Profiad o ddatblygu polisïau a gweithdrefnau
  • Profiad o arwain a datblygu staff.
  • Profiad o ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid.
  • Profiad o reoli tîm yn llwyddiannus
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau gastroenteroleg a thriniaeth a gynigir o fewn GIG Cymru.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth/profiad o ddatblygu a chomisiynu addysg
  • Gwybodaeth/profiad o wasanaethau caffael.
  • Gwybodaeth am bolisïau addysg yng Nghymru a'r DU.
  • Tystiolaeth o gyfrannu at archwilio, gwerthuso gwasanaeth neu ymchwil a chyflwyniad mewn cyfarfodydd rhanbarthol neu genedlaethol, neu gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid.
  • Profiad o reoli a chyflawni prosiectau llwyddiannus ar lefel uwch

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth dda o brosesau llywodraethu
  • Dangos ymwybyddiaeth o bolisi cyfredol y GIG a materion gweithredol
  • Rhaid bod yn ymrwymedig i gefnogi gwerthoedd AaGIC
  • Y gallu i deithio o fewn a thu allan i Gymru
Meini prawf dymunol
  • Gallu gweithio oriau hyblyg

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain a threfnu rhagorol
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Tystiolaeth o feddwl strategol a dadansoddol gyda sgiliau diagnostig a datrys problemau
  • Sgiliau dylanwadu a thrafod rhagorol.
  • Gallu cryf i ysgrifennu papurau briffio a phapurau lefel uchel o safon i uwch reolwyr a phwyllgorau
  • Y gallu i gymhathu gwybodaeth gymhleth.
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol i gyflwyno ystod o gysyniadau a dadansoddiadau i uwch reolwyr, cyfarwyddwyr, uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned iechyd ehangach. Rhaid gallu rheoli lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
  • Y gallu i gynhyrchu gwaith o ansawdd rhagorol i derfynau amser tyn ac anodd.
  • Y gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.
  • Y gallu i ddatblygu perthnasoedd effeithiol ar bob lefel
  • Rheoli amser yn dda, blaenoriaethu ac effeithlonrwydd
  • Sgiliau Ymchwil.
  • Y gallu i ddefnyddio pecyn meddalwedd Microsoft Office i lefel ddigon uchel i gefnogi cynhyrchu adroddiadau / cyflwyniadau sy'n aml yn gofyn am gyfathrebu gwybodaeth gymhleth gan gynnwys i gynulleidfaoedd nad ydynt yn arbenigwyr
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn lefelau 1 i 5 dymunol mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionDisability confident committedDying to Work CharterERS Silver Banner WelshEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental health

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Neil Hawkes
Teitl y swydd
Wales Endoscopy Academy Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg