Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Band 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 25 awr yr wythnos (Bydd yr oriau a weithir ar sail rota rhwng 07:00 a 20:00, bydd angen gweithio ar benwythnosau achlysurol ac aros dros nos)
Cyfeirnod y swydd
028-NMR008-0325
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
De Cymru, y gellir ei drafod
Tref
Pontypridd
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flywyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/04/2025

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cydlynydd Nyrsys Rhanbarthol

Band 7

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Ni sy'n darparu’r gwasanaeth cenedlaethol sy'n sgrinio ar gyfer retinopathi diabetig, i helpu i achub golwg ac rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sy'n awyddus i ymuno â’n tîm yn nhîm Gorllewin Cymru. Bydd y swydd hon yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth deinamig, gan ymdrechu i wella canlyniadau a gofal cleifion drwy ddarparu gwasanaeth sgrinio o ansawdd uchel i boblogaeth ddiabetig Cymru, sydd ar gynnydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr nyrsio proffesiynol uchel ei gymhelliant sy'n meddu ar y gallu i addasu a chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd mewn lleoliad cleifion allanol. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i gefnogi ac arwain staff sgrinio a meithrin perthnasoedd cydweithredol â phobl sy'n gweithio yn DESW, ICC a'n rhanddeiliaid ehangach.

Byddwch yn cefnogi Rheolwr y Rhaglen gyda'r gwaith o arwain y swyddogaeth Sgrinio o fewn rhanbarth daearyddol diffiniedig a byddwch yn gyfrifol am hyfforddi a datblygu ein staff sgrinio.  Byddwch hefyd yn cyfrannu at roi trefniadau gweithredu safonol ar waith, gan sicrhau y gwneir defnydd cyson o bolisïau, safonau, protocolau a fframwaith rheoli perfformiad DESW.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno ein rhaglen gwella a moderneiddio sy'n datblygu, gan gynnwys y cyfle i arwain prosiectau Cymru gyfan. Fel rhan o dîm rheoli nyrsys bach, byddwch yn cefnogi Nyrs Arweiniol y Rhaglen i hyrwyddo rhagoriaeth glinigol drwy oruchwylio, archwilio ac annog ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys y cyflawniadau allweddol canlynol:

Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, sy’n glinigol ddiogel ac effeithlon

Darparu swyddogaeth sgrinio o ansawdd uchel

Cyflawni set o dargedau perfformiad y cytunwyd arnynt

Byddwch yn deall cymhlethdodau darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i'r rhai â chyflyrau hirdymor ac yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o weithio o fewn gwasanaethau diabetig neu offthalmoleg.

Os oes gennych y profiad, yr ymrwymiad a'r awydd i sicrhau bod ein staff a'n gwasanaeth yn gweithredu ar eu gorau, yna hoffem glywed gennych.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi staff yn ein swyddfeydd rhanbarthol yn Gorllewin Cymru.  Yn achlysurol, gofynnir i chi hefyd weithio ledled Cymru fel rhan o’n gwasanaeth cenedlaethol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd yr oriau a weithir ar sail rota rhwng 07:00 a 20:00, bydd angen gweithio ar benwythnosau achlysurol ac aros dros nos.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio i sawl lleoliad fel rhan o'i rôl felly dylai fod ganddo'r gallu i deithio

Nodweddion Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn llawn cymhelliant ac yn ddyfeisgar
  • Rhinweddau arweinyddiaeth cryf
  • Sensitif i anghenion cyfranogwyr/gofalwyr
  • Gallu cynnal safonau uchel o ddiplomyddiaeth a chyfrinachedd
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i amserlenni tynn

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Dealltwriaeth o egwyddorion DESW.
  • Dealltwriaeth o oblygiadau sgrinio
  • Dealltwriaeth o hwyluso a rheoli newid
  • Dangos cymhwysedd mewn ymarfer clinigol.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am egwyddorion ymchwil a sicrhau ansawdd.
  • Gwybodaeth am egwyddorion hybu iechyd
  • Gwybodaeth am gyflyrau Diabetig a/neu Offthalmoleg

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • Y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm
  • Y gallu i hunangyfeirio a hunangymell a gweithio ar eich menter eich hun
  • Sgiliau trefnu rhagorol
  • Sgiliau gwneud penderfyniadau
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau hwyluso
  • Gwybodaeth am systemau ansawdd
  • Siaradwr Cymraeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o weithio ar fand 6 neu uwch
  • Cyflwyno hyfforddiant, cyflwyniadau i grwpiau amlddisgyblaethol
  • Profiad o arwain gwaith archwilio
  • Profiad o weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad diweddar
  • Profiad o reoli
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn gwasanaethau offthalmoleg a diabetes
  • Profiad o weithio ym maes gofal sylfaenol
  • Profiad o weithio ym maes gofal eilaidd
  • Tystiolaeth o ledaenu arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Profiad o fod yn rheolwr llinell

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth broffesiynol drwy radd wedi'i hategu gan hyfforddiant arbenigol ar ffurf diploma ôl-raddedig, profiad neu gyrsiau byr
  • Nyrs Gyffredinol sydd wedi'i Chofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Diploma (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Diabetes neu Offthalmoleg
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif cwnsela
  • Tystysgrif Efydd IQT

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Morgan
Teitl y swydd
Head of Programme
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 849375
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Emma Law

[email protected]

01443 849375

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg