Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Microbioleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC094-0425
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Personol
Gradd 4
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Cynorthwyydd Personol i ymuno â'r tîm Microbioleg sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn arloesol. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu wedi'u datblygu'n dda a gallu i arwain a chefnogi gwaith unigol ac mewn tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu cymorth cynorthwyydd personol a chymorth gweinyddol cynhwysfawr a chyfrinachol i Ymgynghorwyr, staff meddygol a Gwyddonwyr mewn Microbioleg.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfathrebu a chysylltu â chyfarwyddiaethau, adrannau a rhanddeiliaid, a gweithio i derfynau amser tra’n sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Prosesu geiriau I RSA III, Lefel 3 NVQ neu lefel gyfatebol o brofiad.
- Lefel uchel o rifedd a Saesneg ysgrifenedig a llafar.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad blaenorol yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol neu gyfwerth
- Cymryd cofnodion
Meini prawf dymunol
- Clywdeipio
- Gweithio mewn amgylchedd GIG
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cynllunio a threfnu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau bysellfwrdd uwch gyda phrofiad blaenorol o greu adroddiadau, taenlenni a gohebiaeth.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â delio â data cyfrinachol personol a sefydliadol
- Dealltwriaeth drylwyr o weithdrefnau ysgrifenyddol
Meini prawf dymunol
- Terminoleg feddygol
Pridoleddau personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio i derfynau amser ac o dan bwysau.
- Y gallu i weithio o fewn tîm a defnyddio menter eu hunain
- Parchu cyfrinachedd
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr. Nikolaos Makrygiannis
- Teitl y swydd
- Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector