Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dadansoddiad
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 028-AC077-0325
- Cyflogwr
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Parc Bocam, Pencoed,
- Tref
- Peny-y-bont ar Ogwr
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/04/2025
Teitl cyflogwr

Uwch Ddadansoddwr Busnes, Cynllunio a Chyflawni Ariannol- GIG CYMRU
Band 7
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Chyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth GIG fel Uwch Dadansoddwr Busnes. Byddwch yn ymuno â thîm arloesol a llwyddiannus sy’n angerddol dros sicrhau gwerth yn GIG Cymru, gan ddarparu golwg ar y system ehangach drwy driongli canlyniadau cleifion, data ariannol a gweithgaredd gofal iechyd, a chefnogi cynaliadwyedd ariannol a gwelliant ar draws y system.
Fel y mae proffil ac enw da’r Gyfarwyddiaeth wedi cynyddu ers ei sefydlu, felly hefyd y galw am ei harbenigedd a’i dealltwriaeth. Rydym yn ehangu’r tîm mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys dadansoddeg, gwybodeg, gwyddor data a strategaeth a rheolaeth ariannol.
Mae’n amser cyffrous i unigolion sydd â’r cymhelliant a’r uchelgais i ymuno â’r tîm gyda rhaglen waith ac agenda gynyddol, ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth yn GIG Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys chwarae rôl ganolog i gynhyrchu dadansoddiadau a deallusrwydd ariannol cadarn ac effeithiol er mwyn cyfrannu at amcanion cyflawni’r Gyfarwyddiaeth. Mae deilydd y swydd yn weithiwr proffesiynol cyllid cymwysedig yn y Gyfarwyddiaeth, sy’n cynorthwyo’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i fonitro cynlluniau blynyddol yn fanwl, a chyflawni darpariaethau allweddol. Mae hyn yn cynnwys creu adroddiadau misol ar gyfer sefydliadau sy’n dadansoddi tueddiadau ariannol a defnyddio offer dadansoddi i asesu risgiau a phrofi perfformiad a rhagolygon sefydliadau mewn senarios penodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Fe welwch Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person llawn ynghlwm gyda’r dogfennau ategol neu cliciwch ar “Ymgeisio Nawr” i’w gweld yn Trac.
Am fanylion pellach cysylltwch â: [email protected]
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- CYMHWYSTER CCAB/CIMA AC YN AELOD O GORFF PROFFESIYNOL
- WEDI CAEL ADDYSG I LEFEL GRADD NEU GYFATEBOL
- TYSTIOLAETH O DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL PARHAUS
Meini prawf dymunol
- PROFIAD O REOLI PROSIECTAU
PROFIAD A GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- PROFIAD O WEITHIO MEWN ADRAN GYLLID
- PROFIAD O DDEFNYDDIO A GWELLA SYSTEMAU ARIANNOL
- PROFIAD O WEITHIO GYDA RHEOLWYR A DEILIAID CYLLIDEBAU
Meini prawf dymunol
- PROFIAD O WEITHIO YN Y GIG
- PROFIAD O WEITHIO Â SEFYDLIADAU PARTNER
- YMWYBYDDIAETH Y GELLIR EI DANGOS O FUDDIANNAU A BLAENORIAETHAU RHANDDEILIAID
3. SGILIAU A GALLU
Meini prawf hanfodol
- GALLUOEDD DADANSODDOL SYLWEDDOL
- Y GALLU I WEITHIO’N ANNIBYNNOL AC YN GYDWEITHREDOL
- Y GALLU I DDEFNYDDIO SYSTEMAU I GREU ADRODDIADAU, TRAFOD A DEHONGLI DATA
Meini prawf dymunol
- Y GALLU I DROI DATA YN WYBODAETH
- Y GALLU I GREU NEWID A GWELLA ANSAWDD GWASANAETHAU
- SGILIAU MEWN MEDDALWEDD DEALLUSRWYDD BUSNES A CHRONFEYDD DATA
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jess Hammond
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jessica Hammond
Rhwng 9yb a 4yp Dydd Lun - Dydd Iau
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector