Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cleifion Allanol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 21 awr yr wythnos (Dydd Llun, Mercher a Iau)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC265-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Alltwen
- Tref
- Tremadog
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/05/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Swyddog Clerigol - Cleifion Allanol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Gweithio mewn amgylchedd dan bwysau i gydlynu clinigau cleifion allanol, aildrefnu clinigau, lleihau a chynyddu nifer y clinigau i gleifion allanol gan sicrhau’r defnydd gorau o slotiau clinig.
Gwybodaeth fanwl o'r clinigau arbenigol amrywiol i gleifion allanol er mwyn newid a chanslo apwyntiadau, delio â nifer sylweddol o ymholiadau dros y ffôn, gwybodaeth uwch am brotocolau clinigau gyda safonau penodedig. Monitro a mynd i’r afael â rhestrau aros.
Gweithio ar ei liwt ei hun mewn sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn gymhleth i sicrhau bod cleifion yn cael trefnu apwyntiad yn unol â thargedau mynediad lleol a chenedlaethol, sicrhau bod holl slotiau a thempledau’r clinig yn cael eu defnyddio’n effeithiol i wneud y defnydd gorau o’r holl adnoddau sydd ar gael.
Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, gan weithio’n agos â chlinigwyr a staff cymorth i ddarparu'r targedau mynediad a gwasanaeth i gleifion allanol sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn ac wyneb yn wyneb mewn ffordd gyfeillgar a chwrtais. Defnyddio barn a chrebwyll wrth ddelio â sefyllfaoedd anodd gan ddefnyddio empathi, doethineb a diplomyddiaeth.
Gallu gwneud mwy nag un dasg ar y tro, a chynnal lefel uchel o ganolbwyntio a chywirdeb mewn amgylchedd ble gall bod tarfu yn aml. Ymateb i ymholiadau gan gleifion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd mewn ffordd broffesiynol.
Yn gyfrifol am ddyddiadur y clinig gan sicrhau bod ystafelloedd ar gael ar gyfer clinigau cymunedol a chlinigau meddygon ymgynghorol. Yn gyfrifol am lunio cynllun blynyddol ar gyfer pob clinig a gynhelir.
Trefnu apwyntiadau clinig i gleifion dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac mewn llythyr gan sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau hanfodol cyn eu hapwyntiadau.
Yn gyfrifol am ofyn / trosglwyddo a chofnodi nodiadau achos o wahanol adrannau a lleoliadau ar gronfa ddata iFit. . Sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am gleifion ar gael yn y nodiadau cyn y clinig e.e. llythyrau clinig, canlyniadau labordy.
Ar ôl i nodiadau achos gael eu dychwelyd o’r clinig, gwneud yn siŵr bod taflenni canlyniadau wedi cael eu llenwi fel bod y canlyniadau cywir yn cael eu cofnodi ar WPAS i sicrhau bod y claf yn cael ei roi ar y llwybr triniaeth briodol.
Yn gyfrifol am fewnbynnu a chynnal gwybodaeth/data cleifion clinigau allanol ar system WPAS , a diweddaru’r wybodaeth yn ôl yr angen. Sicrhau bod y data a gedwir ar y system yn gywir.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth ymarferol dda o Microsoft Office, Word / Excel
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am weithdrefnau a systemau clercyddol
Meini prawf dymunol
- WPAS, Oracle
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
- NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol o ddarparu gwasanaeth clerigol / gweinyddol cynhwysfawr
- Yn gyfarwydd â gweithdrefnau a therfynau amser swyddfa
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn y GIG neu mewn lleoliad gofal iechyd
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu gwych
- Sgiliau trefnu rhagorol
- Sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau
- Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith
- Gallu defnyddio crebwyll a menter i ddelio â sefyllfaoedd anodd / sensitif
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elin Evans
- Teitl y swydd
- Deputy Administrative Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000852498
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector