Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adnoddau Dynol
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC223-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Brenhinol Alexandra
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Partner Busnes Pobl
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd y swydd hon yn cyfrannu at gyflawni amcanion gweithlu'r Bwrdd Iechyd trwy ddarparu arbenigedd proffesiynol mewn rheoli pobl (Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol), gan sicrhau y darperir gwasanaethau cynhwysfawr, ymatebol ac effeithiol i'r busnes.
Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth rhagweithiol a phroffesiynol i grŵp penodol o gleientiaid gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion cysylltiadau anffurfiol â gweithwyr, newid sefydliadol, recriwtio a chadw, polisïau a gweithdrefnau'r gweithlu a Thelerau ac Amodau'r GIG. Bydd deilydd y swydd hefyd yn datblygu cynlluniau ymgysylltu â staff, yn gweithio gyda’r Academi i gefnogi Rheoli Talent, ac yn gweithredu arferion da ar reoli pobl yn y gweithle, gan weithio ochr yn ochr â rheolwyr i roi hyfforddiant rheoli pobl ac arweinyddiaeth.Bydd deilydd y swydd yn datblygu ac yn cynnal cyswllt rheolaidd ag uwch reolwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o anghenion y gweithlu a heriau'r dyfodol. Bydd ar ddeilydd y swydd angen gwybodaeth a sgiliau digonol i ddylanwadu ar benderfyniadau ar faterion rheoli pobl er mwyn datblygu strategaethau Gwasanaethau Pobl, strwythurau gweithredol a pholisïau, a'u rhoi ar waith i ddiwallu anghenion y gwasanaeth yn unol â deddfwriaeth, polisi AD cenedlaethol a’r arferion gorau y bydd deilydd y swydd yn eu datblygu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogaeth, her adeiladol ac arweiniad arbenigol i reolwyr i sicrhau yr ymgymerir â rheoli pobl mewn modd rhagweithiol a chytûn.
Hyfforddi a chefnogi rheolwyr llinell i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gyflawni'r dyletswyddau a ddiffinnir yn eu swydd-ddisgrifiad.
Cefnogi rheolwyr i ddatblygu aelodau eu tîm drwy Gynlluniau Datblygiad Personol/PADR.
Rhoi cyngor a chymorth Adnoddau Dynol/Datblygu Sefydliadol proffesiynol i reolwyr o fewn meysydd dynodedig er mwyn cyfrannu at wella perfformiad y sefydliad a chyflawni amcanion drwy gynyddu effeithlonrwydd staff.
Gweithio'n agos gyda rheolwyr i nodi unrhyw oblygiadau gweithlu mewn achosion busnes; er enghraifft, newidiadau i batrymau gweithio, cyflwyno rolau newydd neu amrywio telerau ac amodau gwaith.
Ystyried goblygiadau staff ac adnoddau ariannol wrth gynghori rheolwyr er mwyn sicrhau bod y cyngor a roddir yn gyson â chydweithwyr eraill yn y gweithlu, deddfwriaeth, telerau ac amodau ac agenda'r Bwrdd Iechyd.
Ymddwyn yn gyfrifol wrth gyflawni rôl gweithiwr proffesiynol Pobl.
Hyrwyddo datblygu gwasanaeth Pobl sy'n meithrin canolbwyntio ar 'wasanaeth i gwsmeriaid'.
Dirprwyo ar ran y Pennaeth Gweithrediadau Pobl pan fo angen.
Gweithio gyda rheolwyr llinell a chydweithwyr yn y gweithlu i sicrhau bod Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) y gweithlu yn cael eu cyflawni.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Addysg/Cymwysterau a Hyfforddiant
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster MCIPD a thystiolaeth o gymhwyster Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Cymhwyster Rheoli Adnoddau Dynol ar lefel Diploma Ôl-radd neu gymhwyster tebyg Cymhwyster rheoli Adnoddau Dynol
- Hyfforddiant Adnoddau Dynol ychwanegol neu brofiad sy’n cyfateb i radd Meistr
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Cyfraith Cyflogaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad digonol i roi cyngor a chymorth o ddydd i ddydd i reolwyr a staff ar bob agwedd o’r rôl heb oruchwyliaeth nac arweiniad
- Profiad o weithio'n llwyddiannus mewn busnes cymhleth, prysur ac ar raddfa fawr
- Gwybodaeth gyfredol am gyfraith cyflogaeth ac arferion da o ran cyflogaeth
- Profiad sylweddol o gynghori rheolwyr ar ymdrin â chysylltiadau gweithwyr cymhleth, cynhennus a hynod sensitif gan gynnwys ysgrifennu datganiadau achos a rhoi cyngor mewn gwrandawiadau disgyblu a gwrandawiadau ffurfiol eraill.
- Profiad o lunio a chyflwyno hyfforddiant i reolwyr ar ystod o bynciau
- Profiad o fentora a hyfforddi staff
- Profiad o ddatblygu adeiladu tîm neu ddigwyddiadau tebyg i gefnogi ymgysylltu/perthnasoedd timau ac adrannau
- Profiad o ddatblygu ac adolygu polisïau
- Gwybodaeth am Agenda Adnoddau Dynol cyfredol y GIG
- Profiad o gynllunio gweithlu ac ail-gynllunio rolau
- Profiad o weithio mewn partneriaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad o baratoi a mynychu triwbiwnlysoedd cyflogaeth
- Profiad sylweddol o'r GIG
- Profiad rheoli prosiectau
Sgiliau, Gwybodaeth a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfrannu at waith yr adran ar unwaith a sefydlu hygrededd proffesiynol
- Gallu cynghori rheolwyr hyd at lefel uwch reolwyr am faterion AD cymhleth gan gynnwys gwrandawiadau ffurfiol.
- Gallu cefnogi cydweithwyr yn y gweithlu, gan fod fodel rôl a gallu datblygu aelodau o dîm yn broffesiynol ac yn bersonol
- Gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rheolwyr, cydweithwyr a chynrychiolwyr Undebau Llafur.
- Gallu dehongli a chymhwyso cyfraith cyflogaeth i'w defnyddio mewn achosion cyflogaeth, ac i ddatblygu ac adolygu polisïau cyflogaeth Cymru Gyfan a Byrddau Iechyd.
- Gallu cyfleu syniadau a chyngor yn glir ac yn gryno gydag argyhoeddiad ac mewn modd llawn perswâd, yn aml yn wyneb gwrthwynebiad neu elyniaeth pan fo cyngor yn cael ei herio.
- Dangos ymrwymiad i ddefnyddio arferion Rheoli Adnoddau Dynol da yn y busnes a gallu hyfforddi rheolwyr ar sut i gymhwyso arferion Rheoli Adnoddau Dynol yn briodol.
- Sgiliau dadansoddol da. Gallu dadansoddi adroddiadau a data a gweithredu'n briodol arnynt.
- Safon uchel o sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig/gallu cynhyrchu eich gohebiaeth ac adroddiadau eich hun. Gallu esbonio a darbwyllo drwy ymresymu ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac annog eraill i dderbyn materion newydd neu rai nad oes croeso iddynt.
- Agwedd hyblyg, parod i addasu ac arloesol at waith.
- Gallu blaenoriaethu/trefnu llwyth gwaith
- Gallu gweithio fel rhan o dîm
- Profiad o fod yn rheolwr llinell llwyddiannus
- Gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth, gweithredu'n onest ac yn ddidwyll
- Yn gweithio ar draws ffiniau, chwilio am lwyddiant ar y cyd, gwrando, cynnwys, parchu a dysgu o gyfraniadau unigolion eraill
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Thomas-Hanna
- Teitl y swydd
- Head of People Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856114
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector