Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC258-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Brenhinol Alexandra
- Tref
- Y Rhyl
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwy-ydd Clerigol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gweinyddiaeth Gwasanaethau Therapi yn awyddus i benodi unigolyn llawn cymhelliant i weithio mewn Gwasanaeth Podiatreg ac Orthoteg prysur yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn bennaf.
Bydd deilydd y swydd yn aelod o'r tîm gweinyddol sy'n darparu gwasanaeth clercyddol a gweithredwr ffôn ar gyfer y Gwasanaeth Podiatreg ac Orthoteg a chymorth gweinyddol i Wasanaethau Therapi.
Mae Gwasanaethau Therapi yn cynnwys Deieteg, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Podiatreg ac Orthoteg, Therapi Iaith a Lleferydd a Gweinyddiaeth. Mae gan bob ardal ei Bennaeth Gwasanaeth ei hun sy'n atebol i Gyfarwyddwr Ardal Gwasanaethau Therapi.
Mae datblygiad yn hollbwysig mewn Gwasanaethau Therapi ac i ategu at yr ethos hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig ystod eang o hyfforddiant gan gynnwys NVQ.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr effeithiol, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn gweithio mewn ffordd hyblyg a threfnus. Rhaid iddo/iddi feddu ar safon dda o addysg.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol da
- NVQ Lefel 3 neu wybodaeth/profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Tustiolaeth o addysg barhaus
Skills
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu ardderchog
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad cymraeg
General
Meini prawf hanfodol
- Dim gwallau sillatu
- Profiad perthnasol as yn addas ar gyer y rol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sandra Bickerstaff
- Teitl y swydd
- Admin Team Leader
- Rhif ffôn
- 03000 855932
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector