Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwaanaethau plant
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR211-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Risg Glinigol a Llywodraethu
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn cydweithredu â'r Tîm Llywodraethu i ddatblygu fframwaith llywodraethu integredig ar gyfer Gwasanaethau Plant, yn unol â strategaeth ehangach y Bwrdd Iechyd.
Bydd deilydd y swydd yn hyrwyddo diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar fod yn ddidwyll, yn onest ac yn atebol yn y Gwasanaethau Plant.
Ar y cyd â'r Tîm Llywodraethu, bydd yn datblygu systemau rheoli risg glinigol, yn hyrwyddo dulliau rhagweithiol o reoli risg a llywodraethu yn y Gymuned Iechyd Integredig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd
- Ddatblygu blaengareddau a strategaethau Rheoli Risg Glinigol â chymorth y Tîm Llywodraethu.
- Cydlynu a hwyluso asesu risgiau yn yr adran.
- Cynllunio a threfnu cyfarfodydd misol ynghylch Risg Glinigol.
- Trefnu a hwyluso cyfarfodydd wythnosol ynghylch Datix.
- Pennu gradd ar gyfer pob digwyddiad clinigol, a sicrhau y cânt eu cofnodi yn system yr adran at ddibenion cydgasglu ystadegau ynghylch digwyddiadau clinigol.
- Ar ôl dadansoddi tueddiadau, a thrwy gyfrwng argymelliadau ar gyfer Rheolwr y Rhwydwaith Clinigol, cyfrannu at yr Agenda Gwella.
- Sicrhau y bydd aelodau priodol o'r staff yn cynnal ymchwiliadau prydlon ac effeithiol yn sgil digwyddiadau.
- Cydlynu'r holl Adolygiadau o Ddigwyddiadau Difrifol a chyfrannu at ymchwilio i ddigwyddiadau o'r fath.
- Rheoli gwybodaeth sy'n hynod o gymhleth, sensitif neu gynhennus, yn cynnwys dadansoddi data a llunio adroddiadau ynghylch y data hynny.
- Goruchwylio proses yr offeryn adolygu marwolaethau amenedigol.
- Hysbysu Adran y Gyfraith a Llywodraeth Cymru am ddigwyddiadau difrifol (pan fo angen gwneud hynny).
- Bod yn gyfrifol ar y cyd â rheolwyr gwasanaethau am sicrhau y cyflawnir camau gweithredu yn deillio o ymchwiliadau ynghylch digwyddiadau clinigol yn y Gymuned Iechyd Integredig a sicrhau y ceir dull gweithredu integredig i ddysgu gwersi yn sgil digwyddiadau neu ymgyfreitha.
- Sicrhau y cedwir at bob agwedd o'r gofynion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch, a rhoi gwybod yn briodol am unrhyw ddigwyddiadau trwstan.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Fel uchod ac o fewn disgrifiad swydd llawn sydd ynghlwm :-
EG :-
- Cofnodi a monitro cofrestr newid o welliannau i ddiogelwch cleifion yn deillio o'r broses adolygu digwyddiadau clinigol.
- Darparu ystadegau y bydd eu hangen ar y Gymuned Iechyd Integredig.
- Sicrhau y bydd ei harferion ac arferion pobl eraill yn cydymffurfio â pholisïau lleol a chenedlaethol.
- Gweithio dan amgylchiadau hynod o gynyrfiadol, ac ymdrin yn uniongyrchol â theuluoedd a staff sydd wedi cael profedigaeth.
- Ar y cyd â'r Tîm Llywodraethu, bod yn gyfrifol am sicrhau y darperir addysg a hyfforddiant yn ymwneud â'r holl faterion llywodraethu yn y Gymuned Iechyd Integredig (e.e. Dadansoddi Gwraidd Problemau; Rheoli Digwyddiadau a Chadw Cofnodion)
- Gan gydweithredu ag aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol, cyfranogi'n llawn mewn cyfarfodydd archwilio amlddisgyblaethol.
- Sicrhau bod gan y Gymuned Iechyd Integredig ddull trylwyr i ymateb i'r holl argymhellion gan unrhyw ymchwiliadau cyfrinachol cenedlaethol (e.e. MBRRACE, NNAP, NMPA) a holl ganllawiau NICE.
- Cyfrannu at werthuso polisïau clinigol, protocolau, canllawiau a llwybrau clinigol
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Nyrs gofrestredig
- • Tystiolaeth i gadarnhau Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- • Tystiolaeth i gadarnhau gweithio ar lefel Gradd/bod wedi cyflawni cymhwyster Gradd.
- • Tystiolaeth i gadarnhau gweithio ar lefel Gradd Meistr/bod wedi cyflawni cymhwyster Gradd Meistr.
- • Bod yn deall agendâu Llywodraethu ac Iechyd a Diogelwch y GIG.
- • Bod yn deall Strategaeth Lywodraethu'r Bwrdd Iechyd.
Meini prawf dymunol
- • Profiad o rôl rheoli risg.
- • Cymhwyster Addysgu/Mentora
profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad ar ôl cofrestru ym maes gwasanaethau'r newydd-anedig (ar lefel Band 6 neu'n uwch)
- • Gallu rheoli gwybodaeth sy'n hynod o gymhleth, sensitif neu gynhennus, yn cynnwys dadansoddi data a llunio adroddiadau ynghylch y data hynny
Meini prawf dymunol
- • Profiad o archwilio a monitro yn ymwneud a digwyddiadau clinigol.
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol.
- • Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm amlbroffesiwn heb fawr o arweiniad.
- • Gallu gweithio mewn sefyllfaoedd hynod o sensitif gyda theuluoedd sy'n galaru a staff sydd dan deimlad.
- • Gallu rheoli gwybodaeth sy'n hynod o gymhleth, sensitif neu gynhennus, yn cynnwys dadansoddi data a llunio adroddiadau ynghylch y data hynny.
- • Gallu gweithio'n dda dan bwysau a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser
Meini prawf dymunol
- • Bod wedi cyfranogi mewn cwrs ynghylch Dadansoddi Gwraidd Problemau
- • Sgiliau rheoli prosiectau
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- • Cydnerth
- • Gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol hirhoedlog â holl aelodau'r tîm amlddisgyblaethol.
- • Gallu ymdrin â phobl yn sensitif.
arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio’n hyblyg
- Gallu teithio rhwng safleoedd pan fo hynny'n ofynnol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Etheridge
- Teitl y swydd
- Interim Head Of Nursing, Childrens services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977836926
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
ysgrifenyddes [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector