Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddol a Chlercyddol
Gradd
Gradd 8c
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i diwallu anghenion y gwasanaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC234-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£75,405 - £86,885 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth ar gyfer Llawfeddygaeth

Gradd 8c

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am reoli strategaeth, gweithrediad a pherfformiad, ansawdd gwasanaeth a chynllunio, defnyddio adnoddau a moderneiddio ar y safle, gyda gofynion penodol i gyflawni targedau amserau aros.   Bydd angen i ddeilydd y swydd fod â gwybodaeth a phrofiad helaeth a datblygedig ar draws ystod eang o feysydd rheoli a chlinigol - yn cynnwys ystadau, adnoddau dynol, cyllid, llywodraethu clinigol/darpariaeth gwasanaethau eraill.

 

Mae'r Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn aelod allweddol o Dîm Rheoli'r Ysbyty, ac oherwydd hyn, bydd yn cymryd rhan a chyfrannu at gynllunio corfforedig a threfniadau rheoli perfformiad safle'r ysbyty drwy arwain ar ei faes gweithredol o waith.   Bydd pwyslais arbennig ar wella gofal cleifion, profiad a safonau gwasanaeth a chynyddu effeithiolrwydd.  I hwyluso hyn, bydd angen gweithio'n agos gyda strwythur yr ardal i reoli rhyngweithiad rhwng gofal cychwynnol, cymunedol ac eilaidd.

 

Bydd y Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn gweithredu ag ymreolaeth sylweddol a bydd yn gyfrifol am ddynodi a throsi polisi a strategaeth y gwasanaeth iechyd, gan ymgorffori hyn mewn fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer yr ysbyty. Bydd y Rheolwr Cyffredinol Cyfarwyddiaeth yn rheoli staff ar y safle o ran cyflawni targedau gweithredol, ariannol, perfformiad a gweithgaredd.  

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am ddarparu lluosog wasanaethau clinigol, proffesiyol ac eraill yr ysbyty, yn unol â threfniadau llywodraethu'r Bwrdd Iechyd a'i ofynion cydymffurfio statudol. 

       Byddwch yn gyfrifol am reoli'r safle ysbyty yn effeithiol, gan sicrhau penderfyniadau amserol a phriodol i gyflawni gofal cleifion o ansawdd o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

       Gweithio'n agos gyda rheolwyr proffesiynol arweiniol safle'r ysbyty a staff meddygol ymgynghorol, i sicrhau bod eu cynlluniau gweithredol unigol yn gyson gyda'r amcanion a blaenoriaethau corfforaethol a sicrhau bod blaenoriaethau unigol yn cael eu penderfynu o fewn y Gyfarwyddiaeth.

       Datblygu systemau rheoli perfformiad a'u gweithredu fel bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn effeithiol ac effeithlon yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd.

       Dehongli polisïau cenedlaethol megis mynediad cleifion, fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol a safonau llywodraethu clinigol,   er mwyn eu trosi yn gynlluniau gweithredu y gellir eu cyflawni a dylanwadu a chynnig newidiadau i bolisïau'r Bwrdd Iechyd. 

       Sicrhau cyfathrebu effeithiol ac amserol gyda'r holl staff ar hyd a lled y Gyfarwyddiaeth a rhwng cyfarwyddiaethau.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.

Gweithio i'n sefydliad

MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.      

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Gradd Ôl-radd mewn pwnc perthnasol
  • • ENB 998 (Addysgu ac Asesu) neu gyfwerth
  • • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol/Rheolaethol parhaus
  • • Cymhwyster Rheoli
  • • Datblygiad Proffesiynol / Rheolaethol mewn maes perthnasol sy’n gyfwerth â gradd meistr
Meini prawf dymunol
  • • Gradd meistr ym maes rheoli neu gyfwerth.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad rheoli prosiect
  • • Profiad o roi arloesiadau ar waith a rheoli newid mewn amgylcheddau clinigol – safleoedd lluosog
  • • Profiad sylweddol o weithredu’n effeithiol ar lefel uwch yn y sefydliad.
  • • Profiad o archwilio clinigol a rhoi camau gweithredu ar waith
  • • Profiad o weithio amlbroffesiynol ar lefel uwch / gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid eraill
  • • Rheoli cyllideb gwasanaeth sylweddol
  • Profiad o reoli gweithredol
Meini prawf dymunol
  • • Profiad mewn gofal heb ei drefnu a gofal wedi’i drefnu

Cymhwyster a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Bydd deilydd y swydd yn hynod fedrus o ran cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig ar bob lefel.
  • • Meddu ar rinweddau arwain
  • • Gallu meddwl yn ochrol, blaenoriaethu’n effeithiol, dadansoddi a datrys problemau cymhleth.
  • • Gweithio’n unol â therfynau amser
  • • Mae lefel uchel o sgiliau rheoli pobl/rhyngbersonol yn hanfodol.
  • • Gallu i drafod yn ddoeth / yn bendant – gan weithio mewn meysydd sensitif.
  • • Yn hyfedr mewn datrys gwrthdaro
  • • Yn hyfedr mewn Microsoft Office/Professional/Rhyngwladol
  • • Sgiliau dylanwadu effeithiol
  • • Addysgwr effeithiol gyda thystiolaeth ddiweddar o hyfforddi / addysgu eraill mewn lleoliad ffurfiol.
  • • Medrus a phrofiadol o ran rheoli a chyflawni newid yn llwyddiannus
  • • Galluoedd arwain ardderchog
  • • Cyfathrebu’n effeithiol
  • • Sgiliau trefnu
  • • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
  • • Yn fedrus o ran trafod
  • • Tystiolaeth o wybodaeth am benderfynyddion allweddol iechyd a moderneiddio gwasanaethau i sicrhau gwelliannau
  • • Dangos y gallu i gymhwyso arfer yn seiliedig ar dystiolaeth er mwyn arwain at newid
  • • Gwybodaeth am faterion gwleidyddol yn y GIG
  • • Gwybodaeth am safonau’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a Chanllawiau NICE sy’n berthnasol i’r maes
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg.
  • Dangos gwybodaeth fanwl am faterion yn y GIG, er enghraifft llywodraethu clinigol, mesurau ansawdd, Buddsoddwyr mewn Pobl ac archwilio

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • • Yn gallu meithrin tîm gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog.
  • • Sensitifrwydd yn seiliedig ar wybodaeth a sgiliau.
  • • Dylid arwain trwy esiampl, gan bennu safon y mae staff yn anelu ati ac y mae staff wedi’u cymell i’w chyflawni.
  • • Â meddwl agored, yn barod i dderbyn syniadau ac awgrymiadau cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • • Yn wydn
  • • Ymrwymedig i ymgysylltu â staff
  • • Rhaid dangos Gwerthoedd y Bwrdd Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Gallu gweithio’n hyblyg er mwyn delio â gofynion y gwaith
  • • Synnwyr digrifwch da

Other

Meini prawf hanfodol
  • • Hyderus
  • • Sgiliau Cyflwyno
  • • Ymagwedd Broffesiynol
  • • Trwydded Yrru Gyfredol
  • • Parodrwydd i deithio yn ôl yr angen ar gyfer y rôl.
Meini prawf dymunol
  • • Ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jalibani Ndebele
Teitl y swydd
Director of Operations, Acute Site
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000846577
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg