Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Llawdriniaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Cyfnod Penodol: 11 mis (Ar gyfer secondiad tan 5 Ebrill 2026)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Llun - Gwe 08:30-16:30)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC231-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Rheolwr Systemau Theatr
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 11 MIS OHERWYDD AR GYFER SECONDIAD.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Bydd deilydd y swydd yn datblygu system gweithgaredd Theatr cyfunol, cronfa ddata neu daenlen gymhleth a'i chynnal, gan sicrhau eu bod yn addas at y diben, a bydd yn datblygu ac yn hyrwyddo cofnodi gweithgaredd a dangosyddion gwaith, i wella dadansoddi gwybodaeth theatr, ac i ddarparu gwybodaeth rheoli o ansawdd uchel i gynorthwyo gwneud penderfyniadau.
Mae disgwyl i ddeilydd y swydd ddarparu cefnogaeth dechnegol arbenigol a chyngor proffesiynol ar gyfer bob agwedd o Weithgaredd Theatr. Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i ymholiadau a dadansoddiad perfformiad cymhleth iawn ar lefel GRhG, Arbenigedd, Meddyg Ymgynghorol neu lefel claf hyd yn oed.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darpariaeth prosesu gwybodaeth theatr gywir, amserol a dibynadwy yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau, drwy gwblhau eich gwaith eich hun, a drwy gydlynu gwaith eraill.
Darparu cymorth a chefnogaeth i Reolwyr, ac ymgymryd ag ymchwiliad i amrywiaethau a dadansoddiadau cymhleth, gan awgrymu gweithredu cywirol perthnasol i Reolwyr fel bo'n briodol.
Cynhyrchu system ar gyfer cynllunio gweithgaredd theatr a'i chynnal i alluogi rheolwyr i ddyrannu staff yn effeithlon, ac ymateb yn ddiogel ac yn hyblyg i newid arferion. Bydd hyn yn cynnwys cydweithredu’n agos â Meddygon Ymgynghorol ac Anaesthetwyr.
Archwilio cyfleoedd ar gyfer amserlennu sesiynau theatr/llawdriniaethau yn well, a lleihau canslo apwyntiadau ac adrodd i'r Timau Rheoli Clinigol. Cynorthwyo i weithredu sesiynau brys drwy gofnodi gwybodaeth a darparu adroddiadau priodol ar weithgaredd.
Cysylltu â Llywodraeth Cymru a chasglu, cyfuno a darparu ffurflenni data amserol a chywir ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol Cymru Gyfan, gweithgaredd a chanslo triniaethau ar gyfer Theatrau.
Dadansoddi a thrin setiau data cymhleth i gynhyrchu gwybodaeth rheoli o ansawdd uchel ar gyfer uwch reolwr y Bwrdd Iechyd a staff clinigol o fewn yr Uwch Adran.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Yn berthnasol brofiad mewn gwybodaeth iechyd
Meini prawf dymunol
- • Safon dda o addysg gyffredinol
- • ECDL Uwch/NVQ Lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Gwybodaeth am Ddiogelu Data
- • Gwybodaeth am Ofynion Llywodraethu Gwybodaeth ar gyfer ansawdd data
- • Gwybodaeth waith dda am brosesau gweinyddu cleifion mewn ysbyty llym
- • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau System Gweinyddu Cleifion
- • Gwybodaeth fanwl am systemau gwybodaeth gofal iechyd
- • Yn gyfarwydd â phrosesau gweithredu'r Bwrdd Iechyd.
- • Gwybodaeth waith am dechnolegau gwybodaeth, ac ymwybyddiaeth o dueddiadau a datblygiadau perthnasol y diwydiant.
- • Gwybodaeth fanwl am Ddiffiniadau Data'r GIG a mesurau gweithgaredd gofal iechyd.
- • Gallu dangos ymwybyddiaeth o Strategaethau IM&T Cenedlaethol a Lleol.
Meini prawf dymunol
- • Profiad goruchwylio
- • Profiad blaenorol o Sicrwydd Ansawdd Gwybodaeth
- • Yn gyfarwydd â Pholisïau Diogelwch TGCh y GIG
- • Ymwybyddiaeth o Ddeddf Diogelu Data 1998.
- • Gwybodaeth fanwl am sgemâu cronfa ddata WPAS
- • Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- • Gallu cyfathrebu yn effeithiol ac yn rhagweithiol â chlinigwyr, rheolwyr a defnyddwyr gwybodaeth eraill wrth wneud Safonau Data'r GIG a chanlyniadau ystadegol yn glir ac yn ddealladwy.
- • Gallu sbarduno / ymateb yn gadarnhaol i newid gyda'r gallu i ddysgu o brofiad.
- • Medrus iawn wrth ddefnyddio MS Excel ac Access
- • Gallu tynnu data a'i ddadansoddi, weithiau o fwy nag un ffynhonnell ddata, a'i drawsnewid yn wybodaeth ystadegol ystyrlon.
- • Gallu dadansoddi data, a'i groesgyfeirio â data crynodeb i wirio ansawdd data a chywirdeb ystadegau.
- • Systematig o ran dull at ddatrys problemau
- • Sgiliau ysgrifennu adroddiad da, gyda'r gallu i lunio polisïau a gweithdrefnau
Meini prawf dymunol
- • Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg
- • Sgiliau TG a gwybodaeth arbennig, yn cynnwys sgiliau uwch dylunio taenlen a chronfa ddata
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- • Rhoi cleifion yn gyntaf
- • Cydweithio.
- • Gwerthfawrogi a pharchu'r naill a'r llall
- • Dysgu ac arloesi
- Cyfathrebu'n agored ac yn onest
Arall
Meini prawf hanfodol
- • Mae teithio i gyfarfodydd ar safleoedd eraill o bryd i'w gilydd yn ofynnol
- • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Anwen Castleman
- Teitl y swydd
- Interim Deputy Theatre Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841843
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector