Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- PACU/Theatres
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Cyfnod Penodol: 3 blynedd (Dyddiad gorffen 05/02/2028)
- Oriau
- Rhan-amser - 16 awr yr wythnos (Yn cynnwys gwaith Nos 20:00 - 08:15)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS193-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- PACU Theatres Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Gweinyddol PACU
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 3 blynedd. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae swydd ymarferydd cynorthwyol yr Uned Gofal Ôl-anaesthetig wedi'i ddylunio i ddarparu
gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth o dan arweiniad a chefnogaeth nyrs gofrestredig neu
ymarferydd adran lawdriniaeth drwy ddilyn LocSSIPS theatr lawdriniaeth / safon arfer adran
lawdriniaeth a phrotocolau, gweithdrefnau a pholisiau BIPBC.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu gofal o safon uchel, diogel, unigol, effeithlon,
cost effeithiol dan awdurdod dirprwyedig Nyrs Gofrestredig/ODP.
Bydd yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol er mwyn gofalu am gleifion o fewn
amgylchedd yn ystod llawdriniaeth i fodloni anghenion gofal.
CYF CAJE: 2022/0002
Cyfeirnod CAJE/Dyddiad:
2
Bydd deilydd y swydd yn cyfathrebu'n effeithiol bob amser ac yn cydweithio ag aelodau eraill y
tîm.
Bydd deilydd y swydd yn ymarfer yn unol â gofynion safonau a statudol BIPBC, ac yn
gweithredu o fewn ffiniau'r rôl a galluoedd wedi'u hasesu.
Bydd deilydd y swydd yn datblygu'r rôl fel sy'n ofynnol o fewn ffiniau'r amlinelliad swydd KSF a
galluoedd y cytunwyd arnynt.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Ymgymryd â dyletswyddau a ddyrennir o ran gofal unigol y claf fel y dynodir gan y RN/ODP yn unol â pholisiau/gweithdrefnau theatr/BIPBC.
- Cymryd rhan mewn paratoi'r uned gofal Ôl-anaesthetig o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod yr offer cywir ar gael.
- Helpu i gynnal lefelau stoc yn ogystal â helpu i archebu eitemau stoc unigol pan fo angen. Rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau
- Cynorthwyo gyda glanhau'r amgylchedd, gan gynnwys trolïau/gwelyau cleifion ac offer PACU
- Sicrhau yr ymdrinnir â chynnyrch gwastraff yn ddiogel o ran diogelwch personol o ran bygythiad o anaf gan bethau miniog
- Sicrhau bod unrhyw newidiadau yng nghyflwr cleifion/cleientiaid neu amgylchiadau yn cael eu hadrodd arnynt yn syth i'r unigolyn priodol/Nyrs Gofrestredig/ODP mewn gofal.
- Ymgymryd â gofal ymarferol cleifion drwy barchu hawl y claf i breifatrwydd, urddas a chyfrinachedd bob amser
- Sicrhau y cedwir at ODSOPS y cytunwyd arno ar gyfer theatr a phrotocolau BIPBC ynymwneud â rhoi gofal cleifion yn yr Adran Llawdriniaeth.
- Sicrhau bod cofnodion gofal cleifion yn cael eu cofnodi'n gywir
- Defnyddio offer yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr ac adrodd ynghylch unrhyw namau ar unwaith
- Cyfathrebu â chleifion, staff ysbyty ac ymwelwyr mewn ffordd barchus, ac mewn un sy'n hybu hunanbarch a safonau proffesiynoldeb.
- Cofnodi gwybodaeth yn gywir ar system wybodaeth y theatr
- Cynnal lefelau stoc cytunedig, yn cynnwys monitro dyddiadau dod i ben eitemau tafladwy
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Ymgymryd â dyletswyddau a ddyrennir o ran gofal unigol y claf fel y dynodir gan y RN/ODP
yn unol â pholisiau/gweithdrefnau theatr/BIPBC.
Cymryd rhan mewn paratoi'r uned gofal Ôl-anaesthetig o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod
yr offer cywir ar gael.
Cysylltu ag adrannau eraill i sicrhau y bydd offer parhaus ar gael.
Helpu i gynnal lefelau stoc yn ogystal â helpu i archebu eitemau stoc unigol pan fo angen.
Rhoi gwybod am unrhyw anghysondebau
Sicrhau bod yr amgylchedd yn ffafriol i ddiogelwch a chysur cleifion, gan lunio adroddiadau
o ran unrhyw fethiannau o ran y canlynol: gwres, golau, awyru ac offer
Cynorthwyo gyda glanhau'r amgylchedd, gan gynnwys trolïau/gwelyau cleifion ac offer
PACU
Cael gwared â llieiniau budr, leinwyr sugno a gwastraff clinigol, gan gynnwys bocsys
pethau miniog yn unol â ODSOP theatr a pholisi BIBPC
Sicrhau yr ymdrinnir â chynnyrch gwastraff yn ddiogel o ran diogelwch personol o ran
bygythiad o anaf gan bethau miniog
Sicrhau bod unrhyw newidiadau yng nghyflwr cleifion/cleientiaid neu amgylchiadau yn
cael eu hadrodd arnynt yn syth i'r unigolyn priodol/Nyrs Gofrestredig/ODP mewn gofal.
Defnyddio sgiliau y mae modd eu trosglwyddo o fewn lefel gallu
Mae'n rhaid i ddeilydd y swydd berfformio o fewn cod ymddygiad ar gyfer gweithwyr
cefnogi gofal iechyd yng Nghymru (2011) ac o dan oruchwyliaeth yr RN/ODP, a deall ei rôl
ei hun, ei gyfyngiadau a sgôp arfer.
GOFAL CLEIFION:
Ymgymryd â gofal ymarferol cleifion drwy barchu hawl y claf i breifatrwydd, urddas a
chyfrinachedd bob amser
Dealltwriaeth o anghenion unigol y claf
Helpu i osod cleifion ar droliau neu welyau, gan sicrhau eu bod yn gyfforddus ac yn ddiogel
yn ystod triniaethau, ac ystyried eu problemau unigol e.e. breichiau a choesau stiff,
arthritig, a allai ei gwneud hi'n anodd eu gosod
Helpu i baratoi PACU gyfer rhestr lawdriniaeth gan sicrhau bod yr holl adnoddau a
chyfarpar angenrheidiol ar gael; adrodd wrth yr unigolyn mewn gofal am unrhyw
broblemau cyn i'r rhestr ddechrau.
Gweithredu fel aelod o'r tîm - i gynorthwyo a rhagweld anghenion y "nyrs PACU" h.y. Fel
rhedwr ar gyfer nwyddau, pwythau, gorchuddion, gwaredu.
Sicrhau y cedwir at ODSOPS y cytunwyd arno ar gyfer theatr a phrotocolau BIPBC yn
ymwneud â rhoi gofal cleifion yn yr Adran Llawdriniaeth.
Sicrhau bod cofnodion gofal cleifion yn cael eu cofnodi'n gywir.
Cyfeirnod CAJE/Dyddiad:
3
Defnyddio offer yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr ac adrodd ynghylch unrhyw
namau ar unwaith
Helpu staff y PACU i ddelio â samplau yn unol â ODSOPS yr adran
Helpu i ddelio â samplau a'u trosglwyddo i'r gwasanaeth patholeg priodol a nôl mwy o
botiau sampl.
Sicrhau bod unrhyw samplau a gymerir yn cael eu cofnodi a'u storio gan roi manylion cywir
cleifion yn unol â ODSOP y theatr.
Helpu staff i drosglwyddo offer glân a budr a gwastraff, yn unol â ODSOP yr adran.
Gwneud awgrymiadau adeiladol ar sut gellir gwella gwasanaethau er budd cleifion a
chydweithwyr
Cyfrannu at asesiad, cynllunio a darparu gofal o fewn sgôp gallu o dan oruchwyliaeth yr
RN/ODP.
Cofnodi holl asesiad a gofal a ddarperir yn gywir fel y dirprwyir gan yr RN/ODP.
CYFATHREBU:
Cyfathrebu â chleifion, staff ysbyty ac ymwelwyr mewn ffordd barchus, ac mewn un sy'n
hybu hunanbarch a safonau proffesiynoldeb.
Sicrhau bod y sawl sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros reoli PACU yn cael gwybod am
faterion sy'n effeithio ar barhad y sesiwn lawdriniaeth
Cyfathrebu mewn ffordd nad yw'n tarfu ar aelodau eraill tîm PACU
Ymgysylltu ag adrannau eraill a chasglu neu ddosbarthu eitemau fel bo angen a sicrhau
bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo'n effeithiol
Cofnodi gwybodaeth yn gywir ar system wybodaeth y theatr
Sicrhau bod cyfrinachedd cleifion yn cael ei gynnal bob amser
Dangos ymroddiad personol i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dynodi a chymryd camau gweithredu trwy fynegi pryderon pan mae eich ymddygiad eich
hun neu ymddygiad eraill yn tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Defnyddio system gwybodaeth theatr (TIS) a systemau TG perthnasol eraill sy'n ofynnol yn
yr amgylchedd clinigol.
RHEOLI ADNODDAU:
Dangos gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael a’u defnydd ar gyfer gofal cleifion, gan
sicrhau gofal diogel ac effeithlon i gleifion
Bod yn agored i newid a chael peth ymwybyddiaeth o’i weithrediad
Lleihau gwastraff trwy ddefnyddio arfer gweithio da.
Cynnal lefelau stoc cytunedig, yn cynnwys monitro dyddiadau dod i ben eitemau tafladwy
ADDYSG:
Cydnabod pwysigrwydd cael y wybodaeth berthnasol ddiweddaraf er mwyn gwneud y
swydd
Edrych ar gryfderau a gwendidau personol gyda’r bwriad o wella ei hun a chael cynllun clir
ar gyfer ei ddatblygiad personol a phroffesiynol ei hun fel rhan o'r broses gwerthuso
blynyddol.
Cymryd rhan mewn hyfforddi myfyrwyr a staff newydd o fewn ffiniau’r swydd.
Helpu yn y broses archwilio trwy gasglu data yn ôl cais Cydweithwyr Uwch.
Cyfeirnod CAJE/Dyddiad:
4
Cymryd cyfrifoldeb dros gynnal datblygiad personol eich hun a darparu tystiolaeth ar gyfer
PADR a chynnydd KSF.
Ceisio adborth gan y tîm a myfyrio arno ac addasu eich ymarfer yn ôl yr angen.
Gwneud cyfraniad gweithredol at ddatblygu'r gweithle fel amgylchedd dysgu
IECHYD A DIOGELWCH / RISG / RHEOLI HEINTIAU
Cadw at bolisiau rheoli haint o ran technegau aseptig a helpu i gynnal yr amgylchedd
clinigol mewn ffordd sy'n hyrwyddo hylendid ac anghenion iechyd cleifion a'r staff
Sicrhau bod bob man yn lân a thaclus ac yn gweithio ar gyfer bob claf
Cludo deunyddiau peryglus yn gywir yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch a chadw at
faterion diogelwch o ran delio â deunyddiau o'r fath yn unol ag ODSOP theatr
Ymgymryd â gweithgareddau gwaith sy'n gyson ag asesu risg a'i reoli h.y Drwy ddynodi'r
risgiau a pheryglon rydych chi a'ch cydweithwyr yn dod ar eu traws yn ystod y diwrnod
gwaith a phan fyddant yn codi, gan leihau'r risg ar unwaith pan fo modd, a'u hadrodd i'r
unigolyn mewn gofal a drwy Datix.
Mynychu pob hyfforddiant iechyd, diogelwch a diogeledd statudol a hyfforddiant gorfodol,
yn ôl yr angen.
Dealltwriaeth dda o safonau clinigol perthnasol ac archwiliad, a chymryd rhan mewn
archwiliad, pan mae angen gwneud, gan gydnabod bod archwiliad rheolaidd yn cefnogi
gwella ansawdd wrth ddarparu gwasanaeth.
PERSONOL:
Cynnal agwedd broffesiynol a gofalgar bob amser tuag gleifion, cydweithwyr ac ymwelwyr
i'r adran
Gweithio fel rhan o'r tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol bob amser gan hyrwyddo
perthnasoedd gwaith da
Drwy'r broses arfarnu, gwerthuso perfformiad a datblygiad personol a chytuno ar
anghenion datblygiad gofal a gofynion hyfforddi
Cymryd rhan yn yr holl hyfforddiant gorfodol a sicrhau eich bod yn gyfarwydd â rheoliadau
tân a diogelwch
Ymarfer gan ystyried yn llawn ODSOPs theatr a pholisiau BIPBC
Hybu cyfle cyfartal i staff a chleifion yn unol â Pholisïau BIPBC
Ymgymryd â'r dyletswyddau hyn y gallai fod eu hangen sy'n gyson â chyfrifoldebau gradd.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystysgrif lefel 4 mewn addysg uwch : arfer gofal iechyd
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd llawdriniaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad gofal iechyd perthnasol
- • Dealltwriaeth o rôl ymarferydd cynorthwyol PACU
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- Cyfathrebu'n effeithiol
- Hunangymhelliant
- Ymagwedd garedig tuag at gleifion
- Gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- Gallu delio â sefyllfaoedd emosiynol cymhleth ac anodd
- Adnabod ei gyfyngiadau ei hun
- Gallu cymathu gwybodaeth a sgiliau newydd yn effeithiol
- Agwedd bositif
- Yn gallu derbyn beirniadaeth adeiladol
- Sgiliau trefnu da
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Sgiliau TG sylfaenol
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhoi cleifion yn gyntaf
- Gwerthfawrogi a pharchu eraill
- Cydweithio
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eiddwen Hughes
- Teitl y swydd
- Recovery Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841835
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Croeso i Rhiwyn sydd gyda diddordeb yn y swydd i ddod draw i weld yr ardal/swydd cyn yr cyfweliad
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector