Teitl cyflogwr
- Cyfeiriad
-
Llanfrechfa Grange Hospital
Llanfrechfa
Cwmbran
Monmouthshire
NP44 8YN - Rhif ffôn
- 02921 500200
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae’n cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.
Rydym yn gyflogwr sy’n barod i newid, rydym yn ystwyth ac yn hyblyg a gallwn gynnig dulliau amrywiol o ran arferion gwaith un unol â’n Fframwaith Ystwyth Hybrid a’n Polisi Gweithio Gartref. |
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 13,000 o staff ac mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae mwy na 250 o ymgynghorwyr a meddygon teulu, 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr cymunedol perthynol mewn cyfanswm o dros 1000 o ysbytai.
Mae’r Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr eraill yn arwain y Bwrdd Iechyd. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cefnogi’r Bwrdd.
Cymerwyd o http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/hafan”
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn Nyrsio a bydwreigiaeth, Meddygol a deintyddol, Proffesiynau perthynol i iechyd, Gwasanaethau gwyddor iechyd, Gwasanaethau cymorth, Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector