Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rheolwr Prosiect
Gradd
Gradd 7
Contract
8 mis (Cyfnod Penodol i 31/03/2025)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC457-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Wrecsam or Caerdydd
Tref
Wrecsam or Caerdydd
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

SBRI Rheolwr Prosiect

Gradd 7

Trosolwg o'r swydd

Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 31/03/2025 oherwydd cyllido.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth, a hoffech chi ymuno â thîm newydd a chyffrous? 

Mae Canolfan Rhagoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach yn Ganolfan a Thîm a sefydlwyd yn ddiweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r tîm yn anelu at weithio ar y cyd ar draws bob sector iechyd yng Nghymru i ddynodi blaenoriaethau ar gyfer heriau e.e. ar gyfer anghenion sydd heb eu bodloni a darparu cefnogaeth i arweinwyr heriau ar draws y sir fydd yn datblygu datrysiadau technoleg arloesol, ac yn llywio arloesedd mewn caffaeliad iechyd sy'n cael ei arwain gan her.  

Mae rheoli Her SBRI yn ffordd newydd cyffrous i ddefnyddio eich sgiliau rheoli prosiect.  Mae'n eich caniatáu i weithio gyda chyrff cyhoeddus i ddynodi ble mae'r angen, ac yna gweithio gyda busnesau i adeiladu ar eu syniadau ar sut i ddatrys y broblem sydd wedi cael ei dynodi.

Os ydych eisiau'r her, rydym eisiau recriwtio Rheolwr Prosiect i'r Ganolfan.  Dyma gytundeb tymor penodol neu gyfle ar gyfer secondiad fydd yn cael ei gynnal nes 31.03.2025.  Mae posibilrwydd o ymestyn y cytundeb yn ddibynnol ar lwyddiant / cyllid.  Bydd secondiad angen cefnogaeth y Rheolwr Llinell cyfredol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Rheoli ac arwain ar ffrydiau gwaith lluosog gan ddefnyddio methodolegau rheoli prosiect priodol
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i yrru mabwysiadu cyflymach, defnydd uwch a hyfedredd technoleg. Canolbwyntio ar werthoedd y Bwrdd Iechyd, amcanion / meini prawf a safonau ansawdd bob amser
  • Sicrhau llywodraethu prosiectau cryf i gefnogi gwneud penderfyniadau, cyflawni prosiectau a dwysáu gwyriadau i gynllunio y tu allan i derfynau goddefedd y cytunwyd arnynt. Tynnu sylw at broblemau ac awgrymu datrysiad cyn gynted â phosibl.
  • Cynrychioli Gwybodeg drwy gymryd rhan weithredol mewn Pwyllgorau LHB/Cenedlaethol, Byrddau, Timau a Grwpiau
  • Darparu rheolaeth matrics i staff o fewn maes cyfrifoldeb gan gynnwys o fewn tîm y Prosiect sy'n gweithio ar neu sy'n cael eu dyrannu i brosiectau / ffrydiau gwaith a reolir gan ddeiliad y swydd. Bydd hyn yn cynnwys herio staff y prosiect (ar bob lefel) i gyflawni eu gweithredoedd ymroddedig

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Tueddfryd

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgilliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a threfnu / blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith y tîm i weithredu'n effeithiol
  • Gallu profedig i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd sy'n glir, yn rhugl ac yn ddarbwyllol
  • Y gallu i ddehongli polisïau a chanllawiau cenedlaethol fel y bo'n briodol i'w prosiectau.
  • Gallu profedig i ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth gymhleth yn briodol fel ei bod yn hawdd ei deall
  • Gallu profedig i ddylanwadu, perswadio a thrafod gyda staff ar bob lefel
  • Y gallu i rymuso, hyfforddi a chefnogi staff.
  • Sgiliau datrys gwrthdaro
  • Barn gadarn, cynllunio, gwneud penderfyniadau, a sgiliau trefnu
  • Amrywiaeth eang o sgiliau TGCh
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau arwain/ysgogi

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth gyfredol am Gwybodeg Iechyd a'i gymhwysiad
  • Gwybodaeth gyfredol am strategaethau lleol a chenedlaethol perthnasol.
  • Gwybodaeth am brosesau Clinigol, Rheoli a Gwybodaeth
  • Gwybodaeth am gyfraith caffael sy'n ymwneud â systemau iechyd a TG
Meini prawf dymunol
  • Methodolegau hyfforddi
  • Gwybodaeth am y GIG

Priodoleddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Arloeswr
  • Meddyliwr Ochrol
  • Y gallu i gyfathrebu ar lafar â phob lefel o'r sefydliad ac yn abl ac yn barod i rannu gwybodaeth.
  • Y gallu i ddatblygu staff
  • Hyblyg ac addasadwy i fodloni pob agwedd ar y gwaith
  • Rhinweddau arweinyddiaeth ac yn gallu ysgogi eraill
  • Sgiliau Rheoli Amser
  • Gorffenwr Cyflawnwr a Chadeirydd

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Awydd am waith caled a heriau
  • Dangos gwydnwch, stamina a dibynadwyedd o dan bwysau parhaus, heb golli golwg ar amcanion.
  • Lefel uchel o uniondeb personol
  • Dull hyblyg o roi cynnig ar weithdrefnau ac arferion newydd
  • Dewis, datblygu ac arwain timau prosiect cymhleth ac amlswyddogaethol.
  • Datblygu a rheoli cynlluniau a risgiau prosiect cymhleth gan ddefnyddio dulliau rheoli prosiect sefydledig.
  • Trafod a rheoli, monitro a sicrhau canlyniadau yn erbyn contractau.
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Dangos ymrwymiad cryf i ansawdd ac yn canolbwyntio arno, yn hybu safonau uchel o ran popeth maent yn ei wneud. Y gallu i greu cyswllt rhwng eu gwaith a'r budd neu'r effaith o ran cleifion a'r cyhoedd Yn gweithredu'n onest ac yn dryloyw bob amser. Hybu dysgu ac arloesi o ran ei hun ac eraill trwy rannu arfer gorau a gwybodaeth, dysgu gan eraill a myfyrio Gweithio'n dda gydag eraill ac yn annog gwaith tîm. Yn bostif, yn barod ei gymorth, yn gwrando, cynnwys, parchu a dysgu o gyfraniad pobl eraill Yn edrych yn gyson i wella'r hyn mae yn ei wneud, yn chwilio am ffyrdd o weithio'n llwyddiannus sydd wedi'u ceisio a'u profi, a chwilio am arloesi Datblygu ei hun ac eraill yn rhagweithiol Dangos ymrwymiad i weithio'n gyson yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol y Bwrdd Iechyd, a galluogi eraill o fewn y gweithlu i wneud hynny, fel y dangosir yn y gwaith o ddydd i ddydd a thrwy drafodaeth yn y PADR

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Williams
Teitl y swydd
Programme Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07977708649
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sharon Smith 

Dirprwy Bennaeth Arloesi dan arweiniad Her

[email protected] 

07974 037361

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg