Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Beiriannydd Data
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Uwch Beiriannydd Data (Tîm Datblygu) Mae gan yr Adran Wybodaeth gyfle gwych i weithiwr proffesiynol brwdfrydig ymuno â'n Tîm Datblygu fel Uwch Beiriannydd Data.
Rydym yn chwilio am berson llawn cymhelliant sy'n meddu ar sgiliau rhaglennu SQL rhagorol ac sydd â phrofiad o ddylunio datrysiadau cod isel yn Power Platform. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm bach sy'n gyfrifol am gynnal gwasanaeth Warysau Data, Cymwysiadau ac Gwasanaeth Adroddiadau.
Rydym yn cynnig cyfnod sefydlu llawn, oriau gwaith hyblyg a chyfleoedd gyrfa rhagorol. Byddwch wedi'ch lleoli yn un o'n tair prif swyddfa - Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Abergele neu Ysbyty Bangor lle rydym yn cynnig gweithio hybrid, gyda phresenoldeb swyddfa rheolaidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r tîm yn gyfrifol am ddylunio a chynnal warws data’r sefydliad; ei gynhyrchion a'i brosesau, ei lwyfan dosbarthu a'r holl gymwysiadau sy'n ymwneud â chaffael, cynnal a chyflwyno data. Mae'r cynhyrchion gwybodaeth hyn yn cefnogi'r sefydliad i reoli gwasanaethau iechyd yn strategol ac yn weithredol ar draws Gogledd Cymru.
Felly, mae'r canlynol yn hanfodol:
- • Gwybodaeth am gysyniadau a thechnegau storio data
- • Sgiliau SQL uwch
- • Profiad o brosesau ETL
- • Gwybodaeth fanwl am ddylunio cronfa ddata a llwyfan Microsoft SQL Server
- • Profiad o ddylunio/ysgrifennu/cefnogi adroddiadau a dangosfyrddau Gwybodaeth Busnes
- • Profiad o ddylunio/ysgrifennu/cefnogi cynhyrchion Power Platform
- • Dealltwriaeth o bwysigrwydd profi trylwyr
Yn ogystal, rhaid i'r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn hwyluso'r broses o amlygu gofynion ochr yn ochr â sgiliau dadansoddi rhagorol er mwyn gallu trosi'r gofynion hyn yn atebion gweithio a setiau data warws
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Baglor mewn pwnc Gwyddoniaeth, Technoleg neu Fathemateg neu gymwysterau, gwybodaeth neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau Ardystiedig Microsoft mewn Peirianneg Data neu bwnc tebyg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn peirianneg data neu rôl debyg
- Gwybodaeth ymarferol o iaith ymholiad SQL
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol o Power Platform yn arbennig Power Apps ac Automate
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu a hyder i siarad yn gyhoeddus â grwpiau o bobl, gan arddangos syniadau, cysyniadau a datrysiadau peirianneg data ac ateb cwestiynau cysylltiedig.
- Gallu sefydlu perthynas waith dda gyda phobl ar bob lefel.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Mabbs
- Teitl y swydd
- Senior Product Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850580
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Elain Jenkins
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector