Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i diwallu anghenion y gwasanaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP214-0924
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cymuned Iechyd y Dwyrain
Tref
Wrecsam
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn/pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/10/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arbenigwr Clinigol Rehab yr ysgyfaint

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ffisiotherapydd neu ffisiolegydd ymarfer corff cymwys a brwdfrydig i ymuno â'r gwasanaeth adfer cardiaidd sefydledig hwn fel Arweinydd Ymarfer Corff.  Bydd deilydd y swydd yn ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol i gyfrannu at ddarpariaeth gofal adsefydlu cardiaidd mewn amgylchiadau gwahanol.  Bydd y rôl yn cynnwys arwain a gweithredu ymyriadau adsefydlu cardiaidd yn Sir y Fflint a Wrecsam gyda gofynion i deithio ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae baich achos cleient yn cynnwys rhai sy'n dilyn symptomau cardiaidd llym a/neu ymyrraeth gardiaidd a'r rhai â methiant y galon. Bydd deilydd y swydd yn hybu annibyniaeth, hyder a gwell ansawdd bywyd i'r cleient a'u teulu ble bo angen. Bydd gofyn bod gennych sgiliau cyfathrebu ac ysgogi ardderchog a gallu gweithio yn effeithiol mewn tîm ac yn unigol. 

Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â phrofiad o ddigwyddiad mewn cardioleg a/neu adsefydlu cardiaidd.

Fe'ch cynghorir yn gryf i ddarllen y Manylebau Person Swydd ar gyfer y rôl hon a gwneud cais gan wybod eich bod yn cyflawni'r rhinweddau hanfodol hyn.

Rhan amser/Llawn amser

Yn hyblyg rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng 8.30am a 5pm yn dibynnu ar deithio ac anghenion y gwasanaeth

Lleoliad: Ysbyty Maelor Wrecsam neu Canolfan Iechyd y Cei, a bydd gofyn teithio ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Gweithio ar y cyd â'r uwch-ymarferydd i ddarparu gwasanaeth clinigol o ansawdd uchel yng Nghymuned Iechyd Integredig y Dwyrain.

  • Asesu a rheoli cleifion cymhleth. Datblygu a darparu rhaglenni triniaeth unigol a gweithio'n effeithiol gyda'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.
  • Darparu arweinyddiaeth glinigol a rheolaeth o ddydd i ddydd o'r gwasanaeth gan gynnwys cynllunio a chydlynu darpariaeth gwasanaeth a gwerthuso gwasanaeth unwaith y bydd cymwyseddau wedi'u cwblhau.
  • Cefnogi addysg a datblygiad parhaus y tîm i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Addysgwr arweiniol ar gyfer lleoliadau myfyrwyr

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'. 

 Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd". 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais. 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwchGwneud cais nawri’w gweld yn Trac . 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn maes priodol, e.e. ffisiotherapi, ffisioleg ymarfer corff, gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff
  • Wedi cofrestru â Chyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (os yw'n ffisiotherapydd)
  • Cymhwyster Hyfforddwr Ymarfer Corff Lefel 4 BACPR (os yw'n ffisiolegydd ymarfer corff)
  • Tystiolaeth o astudiaeth ar lefel diploma ôl-raddedig (Lefel 6) mewn maes perthnasol
  • Y gallu i ddangos datblygiad proffesiynol parhaus sy'n briodol i faes clinigol, e.e. portffolio DPP perthnasol cyfredol
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o grŵp buddiant arbennig priodol
  • Hyfforddiant Rheoli/Arwain

Gwybodaeth a Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio mewn rôl ymarfer corff clinigol â phoblogaeth gardiaidd
  • Sgiliau rheoli / arwain a gwybodaeth; tystiolaeth drwy reoli newid diweddar ac effeithiol neu ddatblygu t
  • Tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar mewn maes rheolaethol
  • Gwybodaeth a phrofiad clinigol helaeth mewn perthynas â'r arbenige
  • dd Tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar mewn maes clinigol perthnasol
  • Dealltwriaeth o foeseg broffesiynol wrth ymarfer
  • Dangos dealltwriaeth a chyfraniad at brosesau llywodraethu clinigol ac asesiadau risg
  • Gwybodaeth eang am ddeddfwriaeth / polisi iechyd
  • Sgiliau rhesymu clinigol uwch
  • Y gallu i werthuso papurau ymchwil a rhoi canfyddiadau perthnasol ar waith
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cyflwyno amlwg
  • Sgiliau Archwilio/Ymchwil

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol sylweddol
  • Profiad o reoli a datblygu staff a thimau
  • Profiad o ddarparu addysg glinigol yn eich maes arbenigol
  • Tystiolaeth o addysgu mewn swydd
  • Gwaith amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarlithio'n allanol
  • Cymryd rhan mewn ymchwil

Sgiliau cyfathrebu a chydberthnasau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i roi adroddiadau ysgrifenedig a llafar clir a chryno
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, gan gynnwys y gallu i brosesu a rhannu gwybodaeth hynod gymhleth mewn ffordd gyfrinachol
  • Dangos annibyniaeth broffesiynol
  • Y gallu i ymdrin â materion proffesiynol mewn modd hyderus a phendant, gan ddefnyddio sgiliau negodi/dylanwadu a chynnal cydberthnasau gwaith ardderchog â phob rhanddeiliad
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg

Sgiliau Corfforol / Personél

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ymgymryd â thasgau codi a chario yn unol â Pholisïau'r Bwrdd Iechyd
  • Y gallu i gynnal lefel gymedrol neu uchel o ymdrech drwy gydol y diwrnod gwaith
  • Y gallu i ymdopi ag amgylchedd gwaith prysur, gyda chyfnodau o amharu drwy gydol y diwrnod gwaith
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog
  • Y gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith y tîm
  • Yn gallu gweithio'n hyblyg ac yn annibynnol
  • Y gallu i fyfyrio a gwerthuso eich perfformiad eich hun yn feirniadol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gweledigaeth glir o'r rôl/ymrwymiad i arbenigedd a'r adran
  • Bodloni gofynion teithio'r swydd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cerian Williams
Teitl y swydd
Advanced Cardiac Rehabilitation Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 858647
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg