Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Fferyllydd - Arennol
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n fferyllydd clinigol brwdfrydig, llawn cymhelliant a dynamig, sydd yn dymuno gweithio o fewn Tîm Clinigol uchel ei barch mewn rôl sy'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu clinigau rhagnodi o fewn clefyd cronig yr arennau a dilyniant trawsblaniad arennau?
Wedi'i leoli yn ein hunedau dialysis, mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer fferyllydd sy'n ceisio cynyddu gwybodaeth glinigol arennol a sgiliau rhagnodi i’r eithaf, tra hefyd yn ehangu profiad arweinyddiaeth glinigol. Cewch eich cefnogi gan Dimau Arennol Gogledd Cymru a'r Rhwydwaith Clinigol i gyfrannu at archwilio a llywodraethu clinigol i ddatblygu canllawiau a llwybrau clinigol. Bydd digon o gyfle i ehangu agwedd glinigol y rôl ac anogir hyn yn weithredol gan y tîm neffroleg ymgynghorol a nyrsys arbenigol.
Fel tîm, mae gennym ymrwymiad cryf i hyrwyddo ymarfer clinigol fferylliaeth ac ymgorffori systemau optimeiddio meddyginiaethau effeithiol mewn gofal cleifion ar draws y system gyfan. Felly, rydym yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu da sy'n awyddus i fod yn rhan o ddatblygiad pellach gwasanaethau clinigol ac sy'n gallu herio'r sefyllfa sydd ohoni yn ofalus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ddylanwadol yn llwybr gofal y cleifion tra’n adeiladu ar sgiliau clinigol profedig drwy arwain tîm, gwiethio’n amlddisgyblaethol a chydweithredol, o fewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Arwain gwasanaeth fferylliaeth glinigol arbenigol diogel ac effeithiol i'r ardal ddyranedig
- Ymgymryd â dyletswyddau proffesiynol a chlinigol fferyllwyr
- Rhoi cyngor a chymorth fferyllol arbenigol mewn gwasanaethau gofal cychwynnol ac eilaidd, yn ôl yr angen.
- Datblygu, annog a hybu defnydd cost effeithiol o feddyginiaethau, wedi'u seilio ar dystiolaeth.
- Bod yn gysylltiedig â hyfforddi fferyllwyr diploma, cyn cofrestru a fferyllwyr eraill ym maes yr arbenigedd.
- Helpu i roi hyfforddiant clinigol a goruchwylio staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
- Bod yn gysylltiedig â datblygu a chyflwyno ymchwil arfer, gwasanaeth a gwella ansawdd
- atblygu polisïau, protocolau a chanllawiau mewn ardal ddyranedig. Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, i sicrhau'r canlyniad iechyd gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaet
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person o fewn dogfennau ategol neu cliciwch "Apply Now" i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Gradd MPharm neu gyfwerth.
- Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
- MSc/Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a/neu gymwysterau cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a chofrestriad gyda'r Gyfadran.
- Achrededig neu gymwys i gael ei achredu fel tiwtor diploma/MSc Fferylliaeth Glinigol y Sefydliad Addysg Uwch
- Cymhwyster hyfforddi Cymhwyster arwain a/neu reoli
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol (neu weithio tuag ato)
Experience
Meini prawf hanfodol
- Rhaid gallu dangos lefel addas o brofiad yn gweithio yn y sector a reolir a/neu fferylliaeth gymunedol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn maes clinigol perthnasol
- Profiad o arwain a rheoli
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu llafar/ysgrifenedig da
- Dangos gallu i ddylanwadu a thrafod o fewn sefyllfa tîm amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o weithredu newid
- Cyfathrebwr da, llawn cymhelliant, yn gallu arwain a gweithio fel rhan o dîm
- Y gallu i osod a chwrdd â therfynau amser
- Y gallu i flaenoriaethu a dirprwyo
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli pobl yn llwyddiannus
- Sgiliau addysgu a chyflwyno
- Tystiolaeth o oruchwylio neu fentora staff fferyllol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Taylor
- Teitl y swydd
- Medical Lead Pharmacist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 857745
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector