Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR1163-1224-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Uned Heddfan, Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£37,898 - £45,637 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/02/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl a Llesiant - SPoC

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n arweinydd iechyd meddwl arloesol a phrofiadol? Ydych chi'n cael eich ysgogi i wella gofal a phrofiad cleifion o bob oed sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl? Ydych chi'n edrych am gyfle i chwarae rôl ganolog yn y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae hon yn rôl allweddol o fewn gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Iechyd Meddwl SPOC, a fydd yn cael ei hwyluso trwy wasanaeth cenedlaethol 111. Byddwch yn cefnogi'r arweinydd clinigol a byddwch yn gyfrifol am reoli tîm amrywiol o staff o ddydd i ddydd yn cynnwys Ymarferwyr Lles, Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Gweithwyr Cymheiriaid, gan weithredu fel pwynt uwchgyfeirio a phenderfynwr o ran brysbennu clinigol a rheoli risg. Bydd hyn yn golygu arwain y tîm yn weithredol mewn Grŵp Cymorth Myfyriol ar ddiwedd pob sifft.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd llwyddiannus y swydd yn sicrhau bod holl gydrannau'r gwasanaeth yn cael eu cyflawni i safonau uchel, gan ddangos arweiniad i feithrin ymddiriedaeth ac ysbrydoli cymhelliant a gwaith tîm. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r Gwasanaeth i gynnal safonau clinigol proffesiynol a bod yn atebol yn broffesiynol am gyflawni ei swyddogaethau cysylltiedig. Bydd yn rhoi cyngor clinigol arbenigol iawn i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl eraill yn ogystal â staff sy’n uniongyrchol atebol iddo, gan weithredu fel y penderfynwr clinigol wrth frysbennu unigolion gydag anghenion iechyd meddwl lluosog a hynod gymhleth weithiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu rôl arweiniol mewn cefnogi gwerthusiad a rheolaeth brysbennu clinigol i sicrhau ystod o ymyriadau yn canolbwyntio ar adferiad gan ddarparu deilliannau clir i alluogi unigolion i gyrraedd eu potensial llawn, gan ddefnyddio sefydliadau Trydydd Sector ac adnoddau cymunedol i wella eu hadferiad gymaint â phosibl. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo amgylchedd sy'n dangos profiad addysgu da i staff a hwyluso hunanfyfyrio a datblygiad personol i’r tîm.

Dylai deilydd y swydd fod yn hyblyg ac yn gallu addasu i ddygymod ag anghenion y gwasanaeth, gan gyfrannu at berfformiad y gwasanaeth a’i wella. Yn absenoldeb yr Arweinydd Clinigol, bydd deilydd llwyddiannus y swydd yn gyfrifol am arwain y gwasanaeth a bydd hefyd gofyn iddo gymryd rhan yn ein darpariaethau ar alwad.   

Gweithio i'n sefydliad

 Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
 
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd". 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais. 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwn gynnig amgylchedd gweithio cefnogol iawn i chi. Rydym yn angerddol ac yn ymrwymedig i gefnogi ein timau gyda datblygiad proffesiynol parhaus ac mae gennym brofiad hir o fentora o ansawdd uchel o fewn ein timau ac rydym yn edrych i gyflogi unigolion sy’n awyddus i ddatblygu eraill yn ogystal â nhw eu hunain. Os ydych yn edrych am rôl arwain gydag amrywiaeth, cymorth parhaus, a gwir foddhad o swydd, cysylltwch â ni. Mae croeso cynnes i ymweliadau anffurfiol (trwy apwyntiad), dewch i weld beth mae ein timau yn ei wneud a thrafod sut y gallwch ymuno â ni!

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Sands/Kerrie Moore/Megan Bool
Teitl y swydd
Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 847856
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg