Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos. Gweithio 8am-6pm 4 diwrnod yr wythnos i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.)
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR015-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flyddwyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl - CEM Berwyn

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol integredig gan ganolbwyntio ar oedolion sy'n dioddef o ystod eang o broblemau iechyd meddwl. Bydd deilydd y swydd yn dal llwyth gwaith ac yn gyfrifol am asesu anghenion cleifion, cynllunio a gweithredu'r cynllun gofal. 

Bydd deilydd y swydd yn darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth i aelodau staff iau. Bydd deilydd y swydd yn fodel rôl ac yn adnodd i aelodau'r Tîm Iechyd Meddwl drwy barhau i ddatblygu arfer clinigol ac arbenigedd o ran ei gleientiaid ei hun. Sicrhau bod y staff yn gweithio yn unol â'u Codau Arfer Proffesiynol a'r safonau a ddisgwylir gan y Bwrdd Iechyd.

Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a gwasanaethau yng Ngharchar y Berwyn a'r tu allan iddo, gan gynnwys staff Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi (HMPPS) fel bo'n briodol, i gyflawni'r canlyniadau iechyd gorau posibl i gleientiaid a chan gyfrannu at leihau llwybrau aildroseddu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer ymarferwr profiadol, llawn cymhelliant a blaengar i ymuno â thîm cefnogol prysur sydd wedi’i leoli yng Ngharchar Berwyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ar adeg pan fo gwasanaethau’n cael eu hadolygu a’u datblygu er mwyn diwallu anghenion newidiol defnyddwyr gwasanaethau wrth ennill profiad ym maes iechyd troseddwyr.

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu tîm integredig sy'n cynnig darpariaeth iechyd meddwl arbenigol i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn amgylchedd y ddalfa. Bydd hyn yn cynnwys llwythi achosion gofal iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd y byddant yn gweithio ochr yn ochr â nhw i lunio cynlluniau rheoli risg a chynllunio gofal yn seiliedig ar asesiad cadarn o angen. Cefnogir hyn gan ddull tîm amlddisgyblaethol.

Rydym yn chwilio am ymarferwyr iechyd meddwl sydd â chefndir iechyd meddwl craidd gyda phrofiad amlwg a hyfforddiant ag anghenion cymhleth.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm da sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu a rheoli eu hamser yn effeithiol.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddatblygu gweithwyr a chynnig dilyniant rhagorol trwy amrywiol lwybrau gyrfa ac mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus fel MSc mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Katie Hickson
Teitl y swydd
Mental Health and LD Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523769
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rydym yn mynd ati i annog pobl i ddod i ymweld â'r carchar. I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon neu i drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Robert Lightburn 01978523040 neu ebostiwch [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg