Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Library services
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC430-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Athrofa Feddygol Wrecsam
Tref
Wrexham
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Rheolwr gwasanaeth llyfrgell

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rheoli a darparu gwasanaeth llyfrgell a gwybodaeth i holl weithwyr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymarferwyr Cyffredinol a'u staff, Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol a myfyrwyr sydd ar leoliad yn y Bwrdd Iechyd. Sicrhau bod yr amgylchedd yn addas a bod deunyddiau perthnasol ar gael yn hawdd er mwyn cefnogi ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth, addysg, llywodraethu clinigol ac ymchwil a datblygiad.  Darparu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau gwybodaeth er mwyn galluogi staff y Bwrdd Iechyd i ddefnyddio sail wybodaeth gofal iechyd yn effeithiol. Cyfrannu at weithgareddau cynllunio strategol, hyrwyddo gwasanaethau a datblygu staff yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd y GIG yng Ngogledd Cymru a sicrhau y caiff hyn ei roi ar waith.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cydweithio â rheolwyr gwasanaeth yng Nghymunedau Iechyd Integredig y Canol a’r Gorllewin i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i'n defnyddwyr.

· Ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch anghenion llyfrgelloedd a datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

· Cyfrannu at gynlluniau strategol ac adroddiadau blynyddol, gan gynnwys mynychu digwyddiadau lleol a chenedlaethol yn ôl yr angen.

· Cyfrannu at strategaethau marchnata a chyfathrebu o fewn Llyfrgelloedd PBC.

· Cynllunio a darparu addysg a hyfforddiant, a sesiynau ymgyfarwyddo mewn llyfrgelloedd, a darparu cyngor a chymorth ar gyfer prosiectau o fewn y Bwrdd Iechyd.

· Cydweithio â chydweithwyr ymchwil a datblygu i ddylunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni gwerthuso beirniadol addysg.

· Cynorthwyo rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau AI. Hwyluso ymgysylltu, rhwydweithio a digwyddiadau i feithrin cydweithredu ac annog dysgu yn y maes yma.

· Cynnal ymwybyddiaeth broffesiynol trwy gysylltu â llyfrgellwyr gofal iechyd a llyfrgellwyr arbenigol eraill ar lefel ardal ac ar lefel genedlaethol, (trwy fynychu cyfarfodydd a chyrsiau, darllen cyfnodolion proffesiynol, ymweliadau personol a chyfathrebu), i wella gwybodaeth ac arbenigedd a datblygiad proffesiynol pellach.

· Rheoli'r llyfrgell o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheolaeth stoc, rheolaeth ariannol, rheoli a chynnal stoc, a darparu gwasanaeth benthyca'r llyfrgell.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Gradd/cymhwyster ôl-raddedig mewn Llyfrgellyddiaeth/Gwyddor Gwybodaeth ECDL, neu barodrwydd i ennill y cymhwyster hwn Tystiolaeth o DPP
Meini prawf dymunol
  • MCILIP (Membership of the Chartered Institute of Library & Information Professionals) Management qualification Teaching qualification

Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Yn gyfarwydd â chwilio drwy gronfeydd data ac ar y rhyngrwyd am ffynonellau gwybodaeth o ansawdd uchel
  • Gwybodaeth am systemau Rheoli'r Llyfrgell
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Hawlfraint, Diogelu Data, Iechyd a Diogelwch a Rhyddid Gwybodaeth Dealltwriaeth o gysyniadau llywodraethu clinigol ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Gwybodaeth am brosesau arfarnu staff
Meini prawf dymunol
  • Awareness and understanding of the implications of National policies on the NHS and health libraries
  • Appreciation of the concept of knowledge management and its application within the NHS

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn llyfrgelloedd ar lefel broffesiynol
  • Cyfrifoldeb am fonitro adnoddau penodol a gaiff eu prynu
  • Profiad o hyrwyddo sgiliau llythrennedd gwybodaeth i ddefnyddwyr llyfrgell
  • Profiad o reoli staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o un o lyfrgelloedd y GIG neu lyfrgell gofal iechyd arall
  • Profiad o lyfrgell academaidd
  • Paratoi a rheoli cyllidebau a Nodi a sicrhau ffynonellau incwm
  • Profiad o gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil mewn llyfrgelloedd
  • Profiad o ddadansoddi ystadegau
  • Profiad o ennill a chynnal achrediad ar gyfer gwasanaeth llyfrgell
  • Profiad o arfarnu llenyddiaeth yn feirniadol a dysgu'r sgiliau hyn i bobl eraill
  • Profiad o drefnu a chadeirio cyfarfodydd

Aptitudes and abilities

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Sgiliau cyflwyno ardderchog
  • Marchnata gwasanaethau'r llyfrgell
  • Y gallu i nodi, prosesu, arfarnu a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth mewn ffordd sy'n briodol i'r sawl sy'n ei derbyn
  • Sgiliau TG ardderchog
  • Arbenigwr mewn chwilio drwy gronfeydd data gofal iechyd electronig ac adnoddau eraill
  • Y gallu i ddefnyddio adnoddau gwybodaeth er budd pennaf defnyddwyr y llyfrgell
  • Y gallu i arwain, rheoli a chymell tîm
  • Y gallu i gyfathrebu â staff ar bob lefel er mwyn sicrhau cefnogaeth i wasanaeth y llyfrgell
  • Ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n creu amgylchedd ffafriol mewn llyfrgell
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau
  • Y gallu i addysgu sgiliau llythrennedd gwybodaeth
  • Y gallu i gymell staff y llyfrgell gyda'r nod o wella ansawdd y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cyfweld
  • Sgiliau i allu rheoli llety ac amgylchedd llyfrgell
  • Y gallu i gynllunio strategaethau
  • Y gallu i reoli newid
  • Y gallu i gynllunio'r broses dendro ar gyfer adnoddau y man lle rhoddir gofal a chasgliadau o gyfnodolion argraffedig ac electronig
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o oblygiadau polisïau cenedlaethol ar y GIG a llyfrgelloedd iechyd
  • Gwerthfawrogiad o gysyniadau rheoli gwybodaeth a'r ffordd y cânt eu cymhwyso yn y GIG

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Heather Keating
Teitl y swydd
Lead Manager of Medical & Dental Education
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg