Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Hematoleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (9-5)
Cyfeirnod y swydd
050-AC892-1224-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennydd Meddygol Haematoleg

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae tîm Haematoleg yn Wrecsam yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm o Ysgrifenyddion Meddygol. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac effeithlon i’r tîm sydd wedi’i leoli’n y labordy patholeg yn ysbyty Wrecsam.

Oherwydd natur y dyletswyddau, bydd deiliad y swydd yn naturiol empathig a bydd gofyn iddo gadw cyfrinachedd. Bydd hefyd ddisgwyl iddo ymdrin â staff, cleifion, gofalwyr, perthnasau ac ymwelwyr eraill i’r Adran, yn bersonol, drwy e-bost ac yn ysgrifenedig, gyda chwrteisi a disgresiwn gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol bob amser.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster teipio neu brofiad cyfatebol, gwybodaeth dda o becynnau TG (yn cynnwys WPAS/iFit/WCP/EPOC/EPRO) a therminoleg feddygol. Bydd yn gallu cefnogi’r tîm yn bennaf drwy deipio llythyrau clinigol, dosbarthu a didoli post a ffeilio, a chynnal sianeli cyfathrebu rhagorol gyda meddygon teulu, meddygon ymgynghorol, nyrsys ac adrannau eraill yr ysbyty. Bydd deiliad y swydd yn gallu cyfathrebu ar y ffôn, e-bost ac yn ysgrifenedig, trefnu apwyntiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi. Yn ystod absenoldeb yr uwch ysgrifenyddion meddygol, bydd disgwyl i chi gyflenwi gan gynnwys, gwneud dyletswyddau ychwanegol pan fo angen. Bydd yr Uwch Ysgrifenyddion Meddygol hefyd yn dirprwyo gwaith i chi pan fo hynny’n briodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Casglu gwybodaeth ar gyfarwyddyd yr uwch ysgrifennydd meddygol a/neu reolwr gweinyddol. 

Gweithio ar ei liwt ei hun i flaenoriaethu a chynllunio ei faich gwaith ei hun i fodloni cytundebau lefel gwasanaeth a dangosyddion perfformiad allweddol a bydd yn myfyrio ar ei berfformiad ei hun ac yn ei wella, gan gefnogi rheoli newid a gwelliannau i weithdrefnau a datblygiadau gwasanaeth. 

Bydd deilydd y swydd yn cadw at weithdrefnau gweithredu safonol a phrotocolau a bydd yn cynghori a chefnogi cydweithwyr arnynt, dod i benderfyniadau sydd angen nifer o opsiynau a defnyddio profiad o sail sgiliau eang yn ymwneud â'r arfer.

Bydd deilydd y swydd yn monitro ac yn adolygu ffurflenni/manylion cleifion ac eitemau  sydd angen gweithredu pellach, olrhain ymatebion a gwybodaeth hwyr.  Bydd deilydd y swydd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i gleifion a pherthnasau am dderbyniadau ac apwyntiadau.

Casglu a throsglwyddo gwybodaeth yn defnyddio dulliau cyfathrebu electronig, gan weithio i brotocolau/gweithdrefnau gweithredu safonol ym mhob arbenigedd a gweithio'n annibynnol.

Bydd deilydd y swydd yn rhoi gwybodaeth ar y systemau gweinyddu cleifion yn gywir ac yn eu cynnal gan sicrhau ansawdd y data bob amser.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
  • RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word)
  • Cymhwyster yn ymwneud â TG CLAIT plus /ECDL neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR – City & Guilds L3
  • NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
  • Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio o fewn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • Proficient in use of Microsoft office applications
  • Experienced in planning and organising and prioritise own workload
  • Flexible and adaptable to changing service demands
  • Excellent organisational skills
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cymryd cofnodion

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus
  • Gallu delio â gwybodaeth sensitif
Meini prawf dymunol
  • Termau Meddygol

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrannu mewn tîm
  • Agos atoch a chyfeillgar
  • Dibynadwy
  • Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu
  • Empathig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mark Hunter-Dowsing
Teitl y swydd
Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000851401
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg