Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deietetig
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AHP262-1124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Dietegydd Arbennigol - Paediatrig

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Dewch i ymuno â’n tîm dieteteg pediatrig ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae'r tîm pediatrig yn cynnwys 1 arweinydd tîm Band 7 cyfwerth ag amser llawn, 2.4 o ddeietegwyr pediatrig Band 6 wte ac 1 Cynorthwyydd Deieteg Band 3. Mae’r adran yn gweld yr ystod gyfan o gyflyrau pediatrig, gan gynnwys alergedd i laeth buwch, cymorth maethiad y geg ac enteral, diabetes a phroblemau bwydo. Mae gofal cleifion ffibrosis systig yn cael ei rannu ag Ysbyty Plant Alderhey yn Lerpwl. Mae gan Ysbyty Maelor Wrecsam un ward plant ac Uned Gofal Arbennig Babanod Lefel 2. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith gyda chleifion allanol. Mae gan yr adran berthynas waith dda gyda'r gwasanaethau dieteteg pediatrig yng Nghanolbarth a Gorllewin Gogledd Cymru, ac mae'r timau'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ond yn cydweithio'n aml trwy gydol y flwyddyn, gan rannu adnoddau a dysgu.

Mae'r adran ddeieteg ehangach yn Wrecsam a Sir y Fflint yn cynnwys dros 40 o Ddeietegwyr a Chynorthwywyr Dieteg, gyda chefnogaeth tîm gweinyddol. Mae cysylltiadau agos gyda'r gwasanaethau yn y Canolbarth a'r Gorllewin, ac mae datblygiad proffesiynol parhaus, yn fewnol ac yn allanol, yn cael ei gefnogi a'i annog. Mae llawer o'n Dietegwyr yn ymwneud ag ymchwil gyda gwaith cyhoeddedig. Mae gennym raglen ddatblygu weithredol, sy'n ystyried cymorth ar gyfer astudio ar lefel Msc. Byddem yn croesawu sgwrs anffurfiol gydag unrhyw ymgeisydd sydd â diddordeb.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl yn bennaf gyda chleifion allanol, er bod gennym un ward plant ac uned gofal arbennig i fabanod sydd angen cyflenwi. Fodd bynnag, mae’r plant mwyaf difrifol wael yn cael gofal yn Ysbyty Plant Alderhey yn Lerpwl. Bydd y rôl yn cynnwys clinigau cleifion allanol, a fydd, ers y pandemig, yn gymysgedd o rithwir ac wyneb yn wyneb. Bydd rhai clinigau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond efallai y bydd eraill yn y gymuned. Rydym yn defnyddio dull addysg grŵp ar gyfer rhai cyflyrau, fel alergedd i laeth buwch, ac mae’r rhain i gyd ar Teams ar hyn o bryd, ond mae rhai yn debygol o ddychwelyd wyneb yn wyneb pan fydd hyn yn bosibl. Bydd eich llwyth achosion yn gymysgedd o gyflyrau ar gyfer pob oed rhwng babandod a’r arddegau, ac mae’n debygol y byddwch yn cael clinigau amlddisgyblaethol, arbenigol fel rhan o’ch cynllun swydd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein cyd-weithwyr proffesiynol, ac felly gallwch ddisgwyl cynnal sesiynau hyfforddi rheolaidd, er enghraifft ar gyfer Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol a staff meddygol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwyster

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Deieteg
  • Cofrestriad HCPC
Meini prawf dymunol
  • Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddi ol-gofrestru mewn maes arbenigol / uwch deieteteg
  • Aelod Cymdeithas Ddeieteteg Prydain
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygu gwasanaeth a'r gallu i fod yn flaengar.
  • Cwrs addysgwyr clinigol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog.
  • Prawf o sgiliau trefnu.
  • Sgiliau addysgu, goruchwylio a gwerthuso da.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG/bysellfwrdd sylfaenol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kate Harrod-Wild
Teitl y swydd
Area Head of Dietetics - East
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000847268
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg