Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Ddeietegydd Y Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Arbenigol i Oedolion
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle cyffrous i Dietegydd sydd â phrofiad blaenorol neu hefo sgiliau trosglwyddadwy a adnabyddiaeth i ymuno â Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Arbenigol i Oedolion Gogledd Cymru (SAEDS). Fel aelod o dîm amlddisgyblaethol, byddwch yn cynnig ymyriad i'r gwasanaeth datblygiadol Newydd Ymyrraeth Cynnar (Haen 1 a 2) wrth ochr y gwasanaeth Haen 3 presennol.
Mae SAEDS yn cynnig mewnbwn arbenigol i ofal a trin cleifion ag Anhwylderau Bwyta ar draws BIPBC. Mae'r tîm hefyd yn cynnig mewnbwn a chefnogaeth briodol i gleifion a staff yn y tri Ysbyty Cyffredinol Sirol, Unedau Seiciatrig a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar draws y rhanbarth hwn. Bydd y person sy'n dal y swydd yn gyfrifol am asesiad clinigol a darpariaeth dietegol cleifion sydd ag anhwylderau bwyta.
Bydd y Gweithiwr swydd n gyfrifol am ardal benodol (Dwyrain/Canoll BCUHB) gyda hyblygrwydd i weithio yn mannau eraill hefyd pan fo angen. Mae hwn yn swydd llawn amser, ond, rydym hefyd yn agored i ystyried oriau rhan-amser.
Os oes gennych brofiad neu hefo diddordeb cefnogi oedolion ag anhwylderau bwyta ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm, yna gallai hwn fod y swydd i chi!
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif rôl y swydd hon fydd darparu asesiadau ac ymyriadau dietegol ar gyfer oedolion ag anhwylderau bwyta. Bydd y gweithiwe swydd yn cymeryd achos clinigol sylweddol i safon broffesiynol uchel, gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd arbenigol datblygedig iawn, sydd wedi ei seilio a’r wybodaeth ddamcaniaethol uwch a/neu brofiad ymarferol.
Bydd gofyn I’r gweithiwr swydd weld cleifion wyneb yn wyneb a/neu dros MS Teams mewn amryw o leoliadau clinigol fel Meddygfa cyffredinol, Tim Iechyd Meddwl Cymunedol, Sefydliadau Ysbyty Cymunedol Aciwt, Unedau Seiciatreg a sylfaen gwaith. Mae gweithio ar y cyd â staff gofal sylfaenol a chydraddol mewn lleoliadau gofal iechyd a iechyd meddwl yn hanfodol sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu hynod effeithiol. Bydd y darpariaeth dietegol yn dilyn y canllawiau cenedlaethol neu leol diweddaraf ar gyfer cydnabod a thrin anhwylderau bwyta.
Yn ogystal, bydd y gweithiwr swydd yn darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth i Dietegwyr Band 6 ac cynorthwydd generig. Gall y person sy'n dal y swydd hefyd fod angen cynorthwyo mewn grwpiau ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r tîm a darparu hyfforddiant fel y bo'n briodol.
Mae SAEDS hefyd yn darparu ymgynghoriad, goruchwyliaeth, hyfforddiant ac addysg i weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill sy'n gweithio gyda chleifion ag anhwylderau bwyta.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych chi'n mwynhau her, os oes gennych angerdd i helpu eraill neu os ydych chi awydd dechrau newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion cywir. Y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt a dewisol ar gyfer poblogaeth o tua 700,000, ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â’n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith cymhwysedd ‘Balch o Arwain’.
Mwynhau bod yn rhan o weithio gydag arweinwyr ymgysylltiedig ar bob lefel, a bod yn sicr ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun “Cyflogwr Hyderus ag Anabledd”.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth yn ymwneud â recriwtio drwy'r cyfrif e-bost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster arweinyddiaeth glinigol neu dystiolaeth o ddatblygu arweinyddiaeth. Tystiolaeth o gofrestriad cyfredol y Cyngor Proffesiynau Iechyd. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu gymhwyster ôl-raddedig mewn deieteg. Cymhwyster addysgu neu gwrs addysgwyr clinigol i fyfyrwyr. Aelod o Gymdeithas Ddeieteg Prydain neu wedi'i yswirio gan yswiriant indemniad proffesiynol. Tystysgrif hylendid bwyd sylfaenol neu'n gweithio tuag ati. Cymhwyster ôl-raddedig ar lefel meistr neu gyfatebol mewn perthynas ag anhwylderau bwyta
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o grwpiau diddordeb arbennig perthnasol. Presenoldeb ar gwrs/mewn cynadleddau achrededig perthnasol. Tystiolaeth o hyfforddiant ymchwilio ac archwilio.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ar lefel uwch mewn deieteg iechyd meddwl. Dealltwriaeth o foeseg broffesiynol a'i chymhwyso wrth ymarfer. Tystiolaeth o DPP parhaus. Profiad manwl o reoli Anhwylderau Bwyta. Gwybodaeth ddatblygedig am ddiffygion gwybyddol a chanfyddiadol. Gwybodaeth ymarferol helaeth am holl feysydd llywodraethu clinigol yn cynnwys ansawdd, archwilio a rheoli risg. Dealltwriaeth o gyfrifoldebau cyfreithiol y proffesiwn. Dealltwriaeth fanwl o ystadegau a'r gwerthusiad ohonynt a phrofiad o'u defnyddio.
Meini prawf dymunol
- Gweithio ar lefel Meistr neu lefel gyfatebol mewn maes clinigol perthnasol. Profiad o ddatblygiadau i wasanaethau. Profiad o drefnu a chadeirio cyfarfodydd Profiad o ddarlithio'n allanol. Profiad o broses ymchwil. Profiad blaenorol o weithio yn y GIG. Profiad o gyflwyno gwasanaethau mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol gwahanol. Profiad o hyfforddi myfyrwyr / DA. Profiad o fethodoleg ymchwil.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ar lefel uwch mewn deieteg iechyd meddwl. Dealltwriaeth o foeseg broffesiynol a'i chymhwyso wrth ymarfer. Tystiolaeth o DPP parhaus. Profiad manwl o reoli Anhwylderau Bwyta. Gwybodaeth ddatblygedig am ddiffygion gwybyddol a chanfyddiadol. Gwybodaeth ymarferol helaeth am holl feysydd llywodraethu clinigol yn cynnwys ansawdd, archwilio a rheoli risg. Dealltwriaeth o gyfrifoldebau cyfreithiol y proffesiwn. Dealltwriaeth fanwl o ystadegau a'r gwerthusiad ohonynt a phrofiad o'u defnyddio. Gallu wedi'i brofi i arwain, ysbrydoli ac annog tîm. Portffolio wedi'i ddatblygu'n dda o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar uwch a meithrin perthynas. Dulliau o weithio trefnus iawn. Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm. Sgiliau goruchwyliol clinigol / addysgwr clinigol Sgiliau dadansoddol clinigol a rheoli. Sgiliau archwilio ac ymchwil. Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol/dadansoddi maethol. Sgiliau mesur anthropometrig cywir. Sgiliau newid ymddygiad / cyfweld ysgogiadol. Rheoli amser yn dda. Cadw cofnodion da. Sgiliau rhesymu clinigol uwch. Datblygu sgiliau hyfforddi addysg maeth. Y gallu i redeg cyrsiau – cyrsiau mewnol ac allanol. Y gallu i roi adroddiadau clinigol arbenigol at ei gilydd. Sgiliau cyflwyno datblygedig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu. Sgiliau blaenoriaethu Sgiliau arfarnu beirniadol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jan Duberley
- Teitl y swydd
- Operational Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 852861
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector