Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Cymorth Gofal Iechyd Deintyddol
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd y swydd hon yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel aelod o dîm deintyddol medrus. Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa megis croesawu cleifion i glinigau, cofnodi newidiadau i fanylion personol, sicrhau bod y system wybodaeth electronig yn cael ei diweddaru fel bo angen, trefnu apwyntiadau, sicrhau bod gwaith labordy yn cael ei dderbyn a’i fod ar gael ar gyfer y tîm deintyddol. Yn dilyn hyfforddiant priodol bydd disgwyl i chi ddiheintio offer.
Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd yn brydlon yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn ceisio penodi Cynorthwyydd Gofal Iechyd Deintyddol yn ein Canolfan Deintyddol Wrecsam.
Bydd y swydd hon yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel aelod o dîm deintyddol medrus. Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda dyletswyddau derbynfa megis croesawu cleifion i glinigau, cofnodi newidiadau i fanylion personol, sicrhau bod y system wybodaeth electronig yn cael ei diweddaru fel bo angen, trefnu apwyntiadau, sicrhau bod gwaith labordy yn cael ei dderbyn a’i fod ar gael ar gyfer y tîm deintyddol. Yn dilyn hyfforddiant priodol bydd disgwyl i chi ddiheintio offer.
Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd yn brydlon yn hanfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym dim amrywiol ar draws Gogledd Cymru sy’n cynnwys, Deintyddion, Therapyddion, Nyrsys Deintyddol ac Cymorthwywyr Cymorth Iechyd Deintyddol. Rydym igyd yn gweithio gyda’n Gweithio I’n sefydliad.
Gilydd I ddarparu gofal iechyd y geg o’r safon uchaf posibl.
Bydd ein manteision yn rhoi’r boddhad I chi o wybod eich bod wedi chwarae rhan ganolog wrth “Weithio I Sicrhau Dyfodol Iachach I Gymru.
Yma yn BILBC byddwn hefyd yn eich gwobreuo gyda ein buddion sy’n cynnwys ein pecyn gwyliau blynyddol hael, gweithio hyblyg, mynediad at therapy galwedigaethol ag hefyd pensiwn cyfrannol.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd yn gyffredinol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio o fewn amgylchedd gofal iechyd y GIG
sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Safon dda rhifedd a llythrennedd
Meini prawf dymunol
- sgiliau cynllunio a blaenoriaethu / trefnu
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Debbie Evans
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07799342072
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector