Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Technegydd Gweithdy Clinigol
Gradd 4
Trosolwg o'r swydd
Technegydd Gweithdy Clinigol, Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i un Technegydd Gweithdy Clinigol Band 4 i ymuno â'r Gwasanaeth Ymddaliad a Symudedd yn Ysbyty Wrecsam Maelor, Wrecsam. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ardal ddaearyddol fawr yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd y gwaith wedi'i leoli yn bennaf yn y gweithdy peirianneg meddygol a bydd yn cynnwys gwneud dyfeisiau i ddefnyddwyr cadair olwyn ac addasu offer symudedd modur a di-fodur. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys staff clinigol, technegol a gweinyddol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif amcanion y swydd yw:
- Gweithgynhyrchu dyfeisiau sedd ac ategolion mewn defnyddiau gwahanol (metel, plastig, sbwng) yn defnyddio technoleg ddigidol, yn cynnwys meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, a peiriannau mecanyddol gan weithio dan gyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar yn ogystal â defnyddio gwybodaeth dylunio eich hun
- Helpu gydag asesiadau a gosod dyfeisiau yn y lleoliad clinigol neu yng nghartref y cleient, ysgol neu leoliad arall
- Cludo offer rhwng safleoedd gan ddefnyddio cerbydau’r gwasanaeth
- Cyfle i cefnogi safeloedd y gwasnaeth hefo gweithgynhyrchu gan ddefnyddio ein peiriant rheolaeth rifiadol cyfrifiadurol i gynhyrchu seddi pwrpasol, ffurfio trwy gwactod a weldio
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu sgiliau gweithgynhyrchu a bydd yn gofyn i chi addasu i fodloni amrywiaeth eang o ofynion technolegol a chlinigol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 BTEC/SCOTVEC neu City & Guilds mewn Peirianneg Mecanyddol neu gymhwyster/brofiad gwaith cyfatebol.
- Tystiolaeth o hyfforddiant a phrofiad pellach mewn technegau gweithgynhyrchu.
Meini prawf dymunol
- Cofnod / portffolio o wybodaeth a hyfforddiant wedi'i gyflawni. ee technegau â llaw, deunyddiau, sgiliau mecanyddol.
- Ardystiad mewn TIG Weldio Dur a/neu Alwminiwm
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gynhyrchu gan ddefnyddio peiriannau ac offer gweithdy, gan gynnwys peiriannau melino, turniau, gyda ddealltwriaeth drylwyr o bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
- Profiad o systemau TG gan gynnwys gweithgynhyrchu a dylunio â chymorth cyfrifiadur.
- Cyfathrebu da yn ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
- Profiadol mewn Weldio TIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn unol ag asesiadau risg a dogfennau Iechyd a Diogelwch.
- Gallu bod yn symudol ar draws ardal Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau Sicrwydd Ansawdd - BS EN ISO 9001:2015 Neu BS EN ISO 13485:2016
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alys Evans
- Teitl y swydd
- Workshop Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 85 0055
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector