Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicoleg Glinigol
Gradd
Band 8b
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST112-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Plas Gororau
Tref
Wrecsam
Cyflog
£59,857 - £69,553 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Prif Seicolegydd Clinigol

Band 8b

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Prif Seicolegydd Clinigol (Band 8b) -  Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Oedolion Hŷn (37.5 awr). Lleolir y swydd yn Ardal y Dwyrain BIPBC - (Wrecsam).

Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i Wasanaethau Asesu’r Cof a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol Pobl Hŷn yng Ngogledd Cymru: ymgymryd â rôl arweinydd ym maes datblygu therapi seicolegol ac asesiadau niwroseicolegol, hyfforddi, goruchwylio a chynorthwyo staff amlddisgyblaethol a chyfrannu at strategaeth.

Mae adran Seicoleg Oedolion Hŷn BIPBC yn dîm cyfeillgar a chefnogol sydd â chydweithwyr ledled Gogledd Cymru. Cynigir goruchwyliaeth ragorol a chymorth rhagorol gan gymheiriaid, a chaiff yr ymgeisydd llwyddiannus gefnogaeth a chymorth mentor rhagorol, a chyfleoedd i hyfforddi a datblygu ei yrfa. Byddwch yn cael arweinyddiaeth a chymorth clinigol rhagorol, a cheir cysylltiadau clinigol ac ymchwil gwych â'r Ysgol Seicoleg a Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor.   Bydd deilydd y swydd hefyd yn elwa ar gysylltiadau proffesiynol ledled BIPBC a Gogledd Cymru drwyddi ym maes Seicoleg Glinigol, a bydd cyfle i gynnal ymchwil a rhwydweithio'n glinigol yng Ngogledd Cymru a ledled Cymru gyfan.  Mae cefn gwlad Gogledd Cymru yn cynnig  ansawdd bywyd ardderchog, a byddwch yn ymuno â BIPBC ar adeg gyffrous o drawsnewid a thwf. 

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae hon yn swydd barhaol 8b, a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gynnig cyfraniadau a chymorth clinigol arbenigol i dîm amlddisgyblaethol Gwasanaeth Asesu'r Cof (MAS) a'r Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn y Gymuned (OPMH CHMT). Bydd y rôl yn cynnwys gwaith clinigol uniongyrchol gan ymgymryd ag asesiadau a fformwleiddiadau niwroseicolegol arbenigol, cymorth ac ymyriadau cyn cynnal diagnosis ac wedi hynny, a darparu therapïau seicolegol wedi'u teilwra i boblogaeth glinigol o Oedolion Hŷn. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio’n anuniongyrchol trwy eraill trwy waith hyfforddi, goruchwylio a llunio. Disgwylir i ddeilydd y swydd integreiddio'n dda a sefydlu perthnasoedd gwaith da â chydweithwyr yn y tîm amlddisgyblaethol, gan ddarparu gwybodaeth arbenigol, arbenigeddau ac ymgynghori ym maes seicoleg i'r tîm. Bydd hefyd angen i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd clinigol y Tîm Amlddisgyblaethol, cyfarfodydd cyfeirio, a chyfarfodydd busnes, ac ymgymryd ag arweinyddiaeth strategol a chlinigol yn y Gwasanaeth Seicoleg Glinigol Oedolion Hŷn. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yn hanfodol.

Rydym yn dymuno penodi Seicolegydd Clinigol profiadol, cydnerth a chryf iawn ei gymhelliant i ymgymryd â'r cyfle cyffrous hwn i ddod yn rhan o ddatblygiadau'r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru. Bydd y datblygiadau hynny yn cynorthwyo i weithredu blaengareddau gwella yn lleol ac yn llywio'r gwaith hwnnw, ac yn cynorthwyo â datblygiadau lleol ym maes sicrhau ansawdd clinigol yn y dyfodol.  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

 

Manyleb y person

Cymraeg

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Doethur Ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gymhwyster cyfwerth yn achos y sawl a hyfforddodd cyn 1996), wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n cyd-fynd ag argymhellion y BPS a'r HCPC.
  • Profiad sylweddol wedi ei asesu yn gweithio fel seicolegydd clinigol cymwysedig ac uwch; bydd hynny fel arfer yn cynnwys profiad sylweddol ar ôl cymhwyso ym maes arbenigedd penodol y swydd, neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.
  • Profiad wedi'i asesu o weithio'n effeithiol fel seicolegydd clinigol cymwys ac uwch yn yr arbenigedd dynodedig, neu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster cydnabyddedig ar gyfer goruchwylwyr.
  • Hanes o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a/neu lyfrau academaidd neu broffesiynol sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid
  • Sgiliau arwain a rheoli amlwg.
  • Profiad o reoli seicolegwyr clinigol cymwys a staff eraill yn broffesiynol

Cymraeg

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau datblygedig iawn o ran goruchwylio staff eraill, gan gynnwys seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant.
  • Sgiliau datblygedig i allu cyfathrebu gwybodaeth gymhleth, hynod dechnegol a/neu sensitif o safbwynt clinigol i gleientiaid, eu teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio i'r GIG ac mewn sefydliadau eraill, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau datblygedig o ran darparu ymgynghori i grwpiau proffesiynol eraill a grwpiau o bobl nad ydynt yn weithwyr proffesiynol.
  • Gallu dangos ystod o rinweddau sy'n hanfodol i'r swydd, e.e. tosturi, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad.
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau arwain a rheoli amlwg.
  • Profiad o gynrychioli seicoleg yng nghyd-destun gofal amlddisgyblaethol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Joanne Kelly-Rhind
Teitl y swydd
Head of BCUHB Older Adult Clinical Psychology
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 840317
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg