Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cogydd Arweinydd Tim
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Mae Adran Arlwyo Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu prydau, byrbrydau a diodydd i gleifion, staff ac ymwelwyr. Mae Arweinydd y Tîm Cogyddion yn aelod allweddol o'r tîm ac mae'n gyfrifol am gyflawni ystod o ddyletswyddau sy'n ymwneud â chynhyrchu a gweini bwyd mewn cegin brysur. Bydd Arweinydd y Tîm Cogyddion yn gweithio'n agos gyda Goruchwylwyr Arlwyo, y Cydgysylltydd Arlwyo a rheolwyr, i sicrhau bod y gwasanaethau Arlwyo yn ateb y gofynion maeth a dietegol perthnasol sy'n deillio o anghenion clinigol, crefyddol a diwylliannol.
Rydym yn chwilio felly am unigolyn brwdfrydig, dibynadwy, llawn cymhelliant, sydd â City & Guilds 706/1, 706/2 neu gymwysterau cyfwerth, ynghyd â Thystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2 neu sy'n gweithio tuag at ddechrau'r cwrs. Byddai o fantais hefyd i fod â phrofiad o weithio fel Cogydd sydd yn darparu ar gyfer niferoedd mawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd cyfrifoldebau Arweinydd y Tîm Cogyddion yn cynnwys:
- Paratoi a choginio prydau o gynhwysion sylfaenol amrwd a pharatoi prydau arbenigol a brynir i mewn a bwydydd wedi’u rhewi i’w coginio
- Cynorthwyo Goruchwylwyr Arlwyo i oruchwylio staff o ddydd i ddydd
- Cynnal amgylchedd glân a diogel yn y gegin
Mae angen i Arweinydd y Tîm Cogyddion feddu ar sgiliau gwaith tîm, arwain, cyfathrebu a threfnu da. Mae angen iddynt fod yn hunan-gymhelliol, yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth, i fod ag agwedd hyblyg o ran newidiadau sifftiau ac i fod yn gyfeillgar a phroffesiynol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrea Townson
- Teitl y swydd
- Assistant Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 848451
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Andrea Townson
01978 725686
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector