Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Arlwyo
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 35 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-EA190-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cogydd Arweinydd Tim

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

Mae Adran Arlwyo Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu prydau, byrbrydau a diodydd i gleifion, staff ac ymwelwyr. Mae Arweinydd y Tîm Cogyddion yn aelod allweddol o'r tîm ac mae'n gyfrifol am gyflawni ystod o ddyletswyddau sy'n ymwneud â chynhyrchu a gweini bwyd mewn cegin brysur. Bydd Arweinydd y Tîm Cogyddion yn gweithio'n agos gyda Goruchwylwyr Arlwyo, y Cydgysylltydd Arlwyo a rheolwyr, i sicrhau bod y gwasanaethau Arlwyo yn ateb y gofynion maeth a dietegol perthnasol sy'n deillio o anghenion clinigol, crefyddol a diwylliannol.

Rydym yn chwilio felly am unigolyn brwdfrydig, dibynadwy, llawn cymhelliant, sydd â City & Guilds 706/1, 706/2 neu gymwysterau cyfwerth, ynghyd â Thystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2 neu sy'n gweithio tuag at ddechrau'r cwrs. Byddai o fantais hefyd i fod â phrofiad o weithio fel Cogydd sydd yn darparu ar gyfer niferoedd mawr.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd cyfrifoldebau Arweinydd y Tîm Cogyddion yn cynnwys:

  • Paratoi a choginio prydau o gynhwysion sylfaenol amrwd a pharatoi prydau arbenigol a brynir i mewn a bwydydd wedi’u rhewi i’w coginio
  • Cynorthwyo Goruchwylwyr Arlwyo i oruchwylio staff o ddydd i ddydd
  • Cynnal amgylchedd glân a diogel yn y gegin

Mae angen i Arweinydd y Tîm Cogyddion feddu ar sgiliau gwaith tîm, arwain, cyfathrebu a threfnu da. Mae angen iddynt fod yn hunan-gymhelliol, yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth, i fod ag agwedd hyblyg o ran newidiadau sifftiau ac i fod yn gyfeillgar a phroffesiynol.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gwaith rhagorol gan gynnwys hawl hael i wyliau â thâl, tâl uwch am weithio ar benwythnosau, a chyfle hefyd i ymuno â’r Cynllun Pensiwn.

Rydym yn cynnig cytundeb cyflogaeth parhaol a bydd oriau gwaith fel a ganlyn:

  • 35 awr yr wythnos – gan weithio cyfuniad o 6.00am i 1.30pm a/neu 09.30am i 5.00pm, i gyflenwi lle bo’r angen ar rota sy'n cynnwys Gwyliau Banc a phenwythnosau yn unol ag anghenion y gwasanaeth.

Rydym yn cynnig cyflog o £11.85 yr awr, gyda chyfraddau uwch am waith a wneir ar ddydd Sadwrn (£16.23 yr awr), ac ar ddydd Sul (£20.61 yr awr). Darperir hefyd ffurfwisg /dillad addas.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais fel ei gilydd.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Os mai hon yw’r swydd i chi a bod gennych yr egni a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, ynghyd ag ymwybyddiaeth gref o ofal cwsmer a’r ffocws i gyflawni’r nod, rydym am glywed gennych. Cliciwch i wneud cais, a nodwch yn yr adran Gwybodaeth Ategol y sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych a fyddai'n fuddiol i'r rôl hon, yn eich barn chi.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Medrau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Andrea Townson
Teitl y swydd
Assistant Catering Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000848451
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Andrea Townson

01978 725686

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg