Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Sgrybs / Anesthetig / Adfer
Gradd 5
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae theatrau llawdriniaethol Bae Abertawe ar hyn o bryd yn recriwtio Ymarferwyr Anesthetig, Sgryb ac Adfer ar fand 5 AfC.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym yn manteisio ar ddatblygiad unwaith mewn oes ac yn cymryd y camau cyntaf tuag at ein nod o greu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer Theatrau ac i wella llwybrau cleifion ar draws y tri safle theatr.Bydd y datblygiad yn cynnwys cynyddu capasiti llawdriniaeth dydd yn Ysbyty Singleton, Canolfan Rhagoriaeth Orthopedig ar gyfer De-orllewin Cymru yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac yn sefydlu’r anghenion brys a dewisiol aml-arbenigedd cymhleth sydd eu hangen yn y rhanbarth yn Ysbyty Treforys.
Rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant, brwdfrydig, deinamig ac ymrwymedig i ymuno â’n tîmau Theatr Lawdriniaethol egnïol a bywiog ar y daith gyffrous hon.
Os ydych yn Nyrs Gofrestredig neu’n Ymarferydd i’r Adran Lawdriniaethol, gyda chofrestriad proffesiynol yn y DU, hoffem glywed gennych chi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â phrofiad theatr neu’r rhai sydd yn edrych am sialens newydd.Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt brofiad theatr blaenorol yn mynychu rhaglen hyfforddiant a chymorth lawn i roi’r sgiliau y mae ein staff eu hangen iddynt. Mae swyddi rhan amser a llawn amser ar gael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd. Pan fo gwasanaeth yn mynnu, mae angen i staff weithio ar draws y tri safle ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Rydym yn ymrwymo i ddatblygu eich cymhwysedd proffesiynol ac i ddatblygu eich sgiliau trwy ddysgu ac addysg i wneud y gorau o’ch rhagolwg gyrfa. Rydym wedi cefnogi rhaglenni addysgol gyda Phrifysgol Cymru, Abertawe i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae dogfennaeth theatr yn cael ei recordio’n electronig, felly mae sgiliau TG yn angenrheidiol.
Bydd y swydd yma’n cynnwys gofalu am gleifion o fewn yr adran theatr, sydd wedi cael amrywiaeth o weithdrefnau llawdriniaethol o lawer o arbenigeddau, a bydd disgwyl i chi reoli gofal claf trwy gydol y cyfnod amdriniaethol.
Byddwch yn rhan o dîm ysgogol sydd yn ymrwymedig i sialensiau o amgylchedd sydd o hyd yn newid, a bydd disgwyl i chi ddod yn aelod effeithiol ac effeithlon o’r tîm.
Mae hyn yn rôl heriol yn gorfforol a meddyliol, a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus dangos ei gallu i ffynnu mewn gwasanaeth deinamig, cyflym sydd yn rhoi gofal claf wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Gweithio i'n sefydliad
Rydym yn credu mai ein staff yw ein hased gorau ac rydym eisiau i chi fod yn hapus ac yn hyderus am ddechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Fel un o’r grŵpiau iechyd mwyaf yn y DU, rydym yn gallu cynnig cyfoeth o hyfforddiant proffesiynol a chyfleoedd datblygu mewn sefydliad arloesol a blaengar.
Efallai rydych yn nyrs neu’n feddyg, efallai rydych yn arbenigo mewn gwyddorau iechyd / therapi neu rydych yn cynnig sgiliau mewn un o’n gwasanaethau gofal – mae gennym swydd i chi.
Hefyd mae yna brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rôlau gwirfoddoli ar gael.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u rhywedd; eu crefydd neu eu cred; eu hil; eu hoedran; eu cyfeiriadedd rhywiol; eu hunaniaeth rhywedd neu a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod absenoldeb mamolaeth yn ddiweddar, wedi’i briodi neu mewn partneriaeth sifil; neu os maen nhw’n anabl.
Ein gwerthoedd – Gofal am Ein Gilydd, Cydweithio a Gwella bob amser, i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant ardderchog wrth fyw ar stepen ddrws o rai o olygfeydd fwyaf trawiadol Ewrop, gyda’r holl fuddiannau o ddinas gosmopolitaidd ffyniannus – nid oes angen edrych yn bellach.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol am y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr y Gymraeg a/neu’r Saesneg wneud cais.
Gallwch ddarganfod Disgrifiad Swydd lawn a Manyleb y Person wedi’u hatodi yn y dogfennau ategol neu cliciwch ar ‘Gwneud Cais’ i’w gweld ar Trac.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Qualified Practitioner
- Up To Date Professional Registration
Meini prawf dymunol
- Experience
- IT skills
- Awareness / self development
Experience
Meini prawf hanfodol
- Qualification Evidence
- Registration evidence
Meini prawf dymunol
- Relevant experience
- Evidence of CPD/Development
- Value based application
- Understanding of the Role
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Sinclair
- Teitl y swydd
- Speciality Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01639 862000
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Kathryn Lane
Speciality manager
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector