Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pennaeth Labordy Imiwnohematoleg Celloedd Coch
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-HS015-0724
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Tonysguboriau
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Pennaeth Labordy Imiwnohematoleg Celloedd Coch

Gradd 8a

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Labordai Trallwyso yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru ar gyfer rôl Pennaeth y Labordy Imiwnohematoleg Celloedd Coch.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol gyda chefndir mewn seroleg grŵp gwaed cryf i ymuno â’n tîm deinamig sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyfeirio Imiwnohematoleg Celloedd Coch (RCI) Cymru gyfan. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y labordy Imiwnohematoleg Celloedd Coch, ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni amcanion strategol Gwasanaeth Gwaed Cymru.  Bydd gofyn iddynt ddangos sgiliau arwain tosturiol, a rheoli gofynion sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn rhagweithiol.

Byddant yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth Imiwnohematoleg Celloedd Coch yn cael ei ddarparu’n ddiogel 24/7, sy'n cynnwys oriau gwaith arferol ac ar alwad. Byddant yn gallu addasu mewn amgylchedd cyflym a chyfnewidiol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae agweddau allweddol ar y rôl hon yn cynnwys:

Sicrhau bod y gwasanaeth Imiwnohematoleg Celloedd Coch yn cael ei ddarparu’n ddiogel, effeithiol ac effeithlon, a’i fod o ansawdd uchel.

Bod yn arbenigwr pwnc mewn imiwnohematoleg celloedd coch, a darparu cyngor gwyddonol arbenigol.

 Cymryd rhan yn y gymuned Trallwyso wyddonol ehangach, creu partneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol effeithiol, cefnogi meincnodi a llunio dyfodol y gwasanaeth Labordy Imiwnohematoleg Celloedd Coch

 Monitro perfformiad profion labordy arferol a chymhleth iawn, a sicrhau bod targedau perfformiad allweddol yn cael eu cyflawni.

 I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Georgia Stephens, Pennaeth y Gwasanaethau Labordy Trallwyso drwy e-bost: [email protected]    

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Yn unol â'r swydd-ddisgrifiad - gweler y ddogfen atodedig am restr lawn o'r holl fanylion. Cysylltwch â Georgia Stephens am unrhyw eglurhad.

 Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.  Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol neu Glinigol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
  • Cymhwyster Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol mewn Trallwyso neu lefel gyfatebol o hyfforddiant
  • Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth mewn Trallwyso neu faes gwyddoniaeth perthnasol.
  • Tystiolaeth o gymhwyster rheoli/arwain cydnabyddedig neu lefel gyfatebol o brofiad.
  • Profiad a gwybodaeth am brofion seroleg celloedd coch cyfeiriol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn Gwasanaeth Gwaed neu wasanaeth Trallwyso ysbyty ar lefel uwch
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd rheoledig
  • Tystiolaeth o weithredu datblygiadau gwasanaeth a mentrau newydd yn llwyddiannus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Georgia Stephens
Teitl y swydd
Head of Transfusion Laboratory Services
Rhif ffôn
01443 622013
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg