Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd gofyn cymryd rhan mewn rota ar alwad 24/7)
- Cyfeirnod y swydd
- 120-HS014-0724
- Cyflogwr
- Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Tref
- Pontyclun
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flywddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/625.png)
Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol (dan hyfforddiant)
Band 6
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Yn galw ar bob Gwyddonydd Biofeddygol profiadol! Ydych chi'n chwilio am ddilyniant gyrfa, yn llawn heriau deinamig ac amrywiaeth o gyfleoedd? Wel, gallwch chi orffen chwilio!
Rydym yn croesawu ceisiadau gan wyddonwyr biofeddygol uchel eu cymhelliant a brwdfrydig sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac sydd gyda A heb gymwysterau arbenigol mewn Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg (H&I) i.e., Portffolio Arbenigol IBMS.
Heb y portffolio arbenigol mewn H&I? Dim problem, byddwn yn blaenoriaethu eich hyfforddiant ac yn eich cefnogi i gwblhau Portffolio Arbenigol IBMS mewn H&I. Yn y sefyllfa hon, byddai taliad am gyfnod yr hyfforddiant o dan drefniadau Band 6 (Atodiad 21) ar gyfer trefniadau ar gyfer tâl a bandio hyfforddeion (Telerau ac Amodau Gwasanaeth y GIG).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae labordy Trawsblannu Cymru wedi’i leoli ym mhencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau ger Caerdydd, ac mae’n darparu gwasanaeth arbenigol i gefnogi trawsblaniadau bôn-gelloedd arennol, pancreas a thrawsblaniadau bôn-gelloedd hematopoietig, imiwnoleg platennau, a phrofion cysylltiad â chlefydau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cychwyn ar daith wobrwyol i gefnogi gwaith technegol a gwyddonol arferol y Labordy o ddydd i ddydd, gan gynnwys cymryd rhan yn y rota ar alwad 24/7 ar ôl ei hyfforddi. Byddwch yn gweithio ar sail rota ar draws y gwahanol feysydd labordy, ac yn perfformio a goruchwylio profion labordy arferol a chymhleth, gan gynnwys cynnal profion genetig, profion gwrthgyrff a chroesbaru trwy gyfrwng amrywiaeth o dechnegau labordy.
Rydym yn annog i’r deiliad swydd gymryd rhan mewn DPP i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich cynorthwyo i ddilyn eich uchelgeisiau o ran gyrfa.
Mae disgwyl cymryd rhan yn rota ar alwad y labordy ar gyfer cymorth y tu allan i oriau ar gyfer trawsblannu organau solet.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn labordy GIG
Meini prawf dymunol
- Gwaith blaenorol mewn amgylchedd rheoledig
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfrifiadurol gyda sgiliau prosesu geiriau a chronfa ddata
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Yn gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
- Y gallu i weithio'n fanwl gywir
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- BSc Anrh mewn Gwyddorau Biolegol
- Wedi cofrestru gyda HCPC fel Gwyddonydd Biofeddygol neu Wyddonydd Clinigol
- chymhwyster arbenigol mewn Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg (Portffolio Arbenigol IBMS, Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr Diploma BSHI)
- Gwybodaeth am ofynion safonau MHRA, CPA ac ISO
- Gwybodaeth am ofynion profi histogydnawsedd ac imiwnogeneteg (H&I) i gefnogi gwasanaethau trawsblannu
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithredu offer cymhleth a manwl gywir
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn rota ar alwad 24/7, a byddwch yn gyfrifol am drefnu trafnidiaeth brydlon i bencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cyd-dynnu â staff o bob gradd
- Hunan ysgogiad
- Ymagwedd ystwyth a hyblyg at weithio
- Yn gallu i weithio o dan bwysau
- Brwdfrydedd am yr yrfa y gwnaed cais amdani
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Burrows
- Teitl y swydd
- Head of Solid Organ Transplantation
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 622191
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector