Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwydd Casgliadau Clinigol
GIG AGF: Band 3
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa. Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.
Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.
Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.
Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028
Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.
Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu cynhyrchion gwaed i Ysbytai'r GIG ar draws Cymru ac ar hyn o bryd, mae'n recriwtio Cynorthwyydd Casglu Gwaed Clinigol rhan amser.
O aelodau'r cyhoedd sy'n rhoi rhoddion gwaed anhygoel sy’n achub bywydau, i aelodau ymroddedig o’n tîm sy'n gwneud i hyn ddigwydd - mae pobl yn hanfodol i'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Gallech chi ein helpu i newid bywydau.
Mae'r rôl yn amrywiol, a bydd yn cynnwys croesawu rhoddwyr, profi rhoddwyr i weld p’un a ydyn nhw'n gallu rhoi gwaed ar y diwrnod hwnnw, cymryd gwaed, cynnal cofnodion a chynnig cyngor clinigol ac ôl-ofal sylfaenol. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus wrth weld gwaed.
Byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant technegol sydd ei angen arnoch i dynnu gwaed (defnyddio nodwyddau i dynnu gwaed), felly nid oes angen cefndir meddygol arnoch. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddangos sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chael natur gyfeillgar a hyblyg, a fydd yn gwneud i roddwyr deimlo’n gartrefol, ac fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y rôl yn cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a gofal uniongyrchol rhagorol i roddwyr trwy gydol y broses rhoi gwaed. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau sy’n ymroi i greu amgylchedd gofalgar a phrofiad rhagorol o ran y gwasanaeth i gwsmeriaid wrth nodi a bodloni disgwyliadau rhoddwyr unigol fel bod gwaed yn cael ei roi’n ddiogel a bod rhoddwyr yn cael eu hannog i ddychwelyd. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno
safonau uchel o wasanaeth cwsmeriaid ac tynnu gwaed.
Byddwch yn gweithio yn unol â gweithdrefnau a safonau ansawdd a chlinigol cytunedig i sicrhau diogelwch rhoddwyr a chleifion.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd ddatblygu sgiliau ym meysydd tynnu gwaed, sgrinio rhoddwyr, cyfarfod a chyfarch, rheoli apwyntiadau a chysoni, yn ogystal â sgiliau craidd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg hyd at lefel TGAU neu gyfwerth
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd.
- Profiad o ddelio â materion sensitif neu gyfrinachol
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu, ysgrifenedig a rhifedd rhagorol.
- Y gallu a’r deheurwydd i dynnu gwaed
- Gallu gweithio’n drefnus ac yn gywir a dilyn cyfarwyddiadau
- Deall a gweithio o fewn paramedrau’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd
- Hyfforddiant a neu brofiad o wasanaeth cwsmeriaid.
Meini prawf dymunol
- Tysysgrif Cymorth Cyntaf
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Hyderus wrth ddefnyddio offer awtomataidd.
- Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd sy'n ffocysu ar y gwsmenaid
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda phobl ar bob lefel
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Morgan
- Teitl y swydd
- Apheresis Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 622183
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Mark Jenkins Rheolwr Gweithrediadau 01443 622107
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector