Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwy-ydd Gwasanaethau Cleifion
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Gwaith o fewn Gwasanaethau Cleifion a/neu Weinyddol i gefnogi Gwasanaethau Ysbyty gan gynnwys Cleifion Allanol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydw i’n chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd llawn cymhelliant i ymuno a Thîm Gwasanaethau Cleifion. Byddwch yn gweithio ar y broses prosesu o wybodaeth yn effeithlon trwy ddefnyddio System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) a threfnu apwyntiadau ysbyty.
Bydd gofyn i chi brosesu atgyfeiriadau o’r cychwyn hyd at y broses trefnu apwyntiad, gan ddefnyddio’r system WPAS a chadw at ganllawiau rhestr aros a gweithdrefnau cofnodion iechyd. Y claf fydd yn ganolbwynt i chi, byddwch a sgiliau cyfathrebu a sgiliau defnyddio ffôn da, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac o fewn tîm bach.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Addysg sylfaenol o safon dda
- Yn hyddysg mewn cyfrifiadura a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft, gan gynnwys Word ac Excel
- RSA neu NVQ2 mewn sgiliau TG neu brofiad gwaith perthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o ddyletswydda u clercaidd gweinyddol
- Gallu siarad Cymraeg
Aptitude Abilities
Meini prawf hanfodol
- Gallu delio ag aelodau’r cyhoedd, cleifion a chlinigwyr wyneb yn wyneb
- Dull da o siarad dros y ffon
- Gallu gweithredu ar eich liwt eich hun i liniaru sefyllfa anodd sy’n ymwneud a chleifion
- Gallu gweithio fel rhan o dim neu ar eich liwt eich hun
- Ability to deal sympathetically with patients and relatives
Other
Meini prawf hanfodol
- Punctual and reliable
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Brown
- Teitl y swydd
- Patient Services Manager North
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01938558926
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector