Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Mental Health
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-NMR122-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau
Tref
North Powys
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ymarferydd Mewngymorth Ysgolion CAMHS

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Mae Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys wedi cael ei ddatblygu gan gyfeiriad Llywodraeth Cymru i weithio i gefnogi ysgolion i gefnogi dysgwyr trwy ddull ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol. Mae'r Gwasanaeth hwn yn cyfrannu at y blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Mae gweithio yn y tîm hwn yn gofyn am gyfathrebu a chyswllt  gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ac ysgolion, y gallu i weithio ar y cyd a chyd-gynhyrchu gyda gwasanaethau eraill. Mae’r tîm yn cwmpasu Powys gyfan, felly bydd yn rhaid teithio, a bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn ne Powys. Os ydych wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc drwy ddull ymyrraeth gynnar ledled Powys, gan weithio mewn tîm amlddisgyblaethol ac os oes gennych y sgiliau a'r cymwysterau a nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb y person, cysylltwch i archwilio hyn ymhellach.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Byddwch yn cyfrannu at ddarparu Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys, sy'n cynnwys ymgynghori, darparu addysg a hyfforddiant.  Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio fel tîm, gweithio gyda phartner a gweithio’n amlasiantaethol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys yn Wasanaeth ymyrraeth gynnar gyda’r Gwasanaethau CAMHS, sy’n cysylltu â Blaenoriaethau Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Disgrifiad swydd fanwl a phrif gyfrifoldebau

  • Cynnig cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol perthnasol.
  • Cynnal ymgynghoriad yn yr ysgol trwy ddilyn dull sy'n seiliedig ar theori, o amgylch achosion lle mae staff ysgolion yn chwilio am wybodaeth arbenigol ynghylch iechyd meddwl a lles.
  • Darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â materion iechyd a lles emosiynol a chynnal unrhyw rhaglenni hyfforddi perthnasol ar sail tystiolaeth.
  • Cyflwyno dysgu i addysgwyr mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd o gwmpas iechyd a lles emosiynol.
  • Cyflawni ymyriadau therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth, lle bo’n berthnasol.
  • Cydweithio’n effeithiol gydag aelodau eraill o Dîm Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys a Gwasanaethau CAMHS.
  • Cydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
  • Cefnogi prosesau cyfeirio ymlaen drwy gysylltu ag ysgolion a gwasanaethau eraill.
  • Cadw at safonau BIAP a’r corff proffesiynol wrth gadw cofnodion a storio cofnodion.
  • Cyfrannu at waith casglu data.
  • Cefnogi Arweinydd y Tîm gyda chyfrifoldebau dirprwyedig.
  • Gan fod hon yn swydd Powys gyfan, bydd disgwyliad i deithio o amgylch y sir. (Cyfeiriwch ymhellach at y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person).

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol Cofrestredig, megis: Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig neu Nyrs Gofrestredig Anableddau Dysgu neu Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig neu Ymarferydd sydd â chymhwyster cwnsela priodol i lefel Diploma Ôlraddedig o leiaf Hyfforddiant ychwanegol mewn un neu fwy o therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth, sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol neu iechyd meddwl plant. Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus Cymwysterau proffesiynol ac mae’n rhaid i’r sgiliau gydweddu i gymysgedd sgiliau ac amlddisgyblaethau’r Tîm Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth sydd wrth wraidd cyflenwi gwasanaeth, e.e. Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Gwybodaeth o ddeddfwriaeth Diogelu a gweithdrefnau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed Dangos dealltwriaeth normadol, gyd-destunol a datblygiadol o gyflyrau plant a phobl ifanc o ran salwch meddwl, trallod emosiynol a materion yn ymwneud ag ymddygiad. Gwybodaeth glinigol gadarn o’r sylfaen dystiolaeth gyfredol sy’n berthnasol i’r maes arfer Gwybodaeth o ymyriadau seicolegol uniongyrchol ac anuniongyrchol Gofynion am hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer diffiniad fel Seicotherapydd.
  • Profiad o asesu a chyflenwi ymyriadau seicolegol gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd Profiad o gyflawni targedau cytunedig/ penodedig gwasanaeth Profiad o reoli’ch llwyth achosion a’ch amser eich hun ac o weithio’n annibynnol Profiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth Profiad o arwain newid neu fentrau newydd neu ddatblygiadau gwasanaeth eraill .
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn rhai llafar ac ysgrifenedig Sgiliau TG rhagorol Gallu dangos tact a thringarwch wrth weithio gydag eraill Gallu sefydlu perthnasoedd da o fewn y sefydliad a’r tu allan iddo Bod yn rhagweithiol ac yn barod i addasu pan wynebir amgylchedd newidiol Tystiolaeth o wneud cyflwyniad i grwpiau.
  • Dangos Gwerthoedd BIAP Tystiolaeth o egni, brwdfrydedd ac ymroddiad Dangos agwedd bositif a pharch i eraill Gallu annog twf a datblygiad pobl eraill .
  • Gallu addasu i waith mewn gwahanol amgylcheddau, gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau Cydnerthedd emosiynol a phroffesiynol i reoli galwadau a blaenoriaethu anghenion y gwasanaeth.

Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc i gefnogi iechyd a lles emosiynol.

Meini prawf hanfodol
  • Relevant qualifications, skills and experience.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gail Morris
Teitl y swydd
Powys CAMHS School In-Reach Team Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07977398714
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg