Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng
Band 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau darpariaeth gynhwysfawr o wasanaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n gost-effeithiol, yn hygyrch, yn briodol ac yn ymatebol i ddarparwyr gwasanaeth ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
Bydd deiliad yn swydd yn gyfrifol yn barhaus am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso anghenion gofal a sicrwydd ansawdd. Bydd y Rheolwr yn datblygu ac yn cydlynu dull amlbroffesiwn o weithredu, gan ddarparu gofal iechyd meddwl seiliedig ar dystiolaeth i’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Bydd y cydweithrediad hwn yn harneisio dull asiantaeth cyfunol o weithredu fel bod asiantaethau corfforol, seicolegol a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu gofal holistaidd i unigolion sydd angen ei gymorth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus y Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng a bydd yn sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu o safon broffesiynol uchel, yn unol â pholisïau agweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd. Mae disgwyl i bob aelod o staff weithio’n unol â gwerthoedd BIAP.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau darpariaeth gynhwysfawr o wasanaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n gost-effeithiol, yn hygyrch, yn briodol ac yn ymatebol i ddarparwyr gwasanaeth ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.
Bydd deiliad yn swydd yn gyfrifol yn barhaus am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso anghenion gofal a sicrwydd ansawdd. Bydd y Rheolwr yn datblygu ac yn cydlynu dull amlbroffesiwn o weithredu, gan ddarparu gofal iechyd meddwl seiliedig ar dystiolaeth i’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Bydd y cydweithrediad hwn yn harneisio dull asiantaeth cyfunol o weithredu fel bod asiantaethau corfforol, seicolegol a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddarparu gofal holistaidd i unigolion sydd angen ei gymorth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus y Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng a bydd yn sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu o safon broffesiynol uchel, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and or knowledge
Meini prawf hanfodol
- Qualified Health or Social Care Professional
- Postgrad qualification or significant relevant experience in related filed
- Evidence of personal and clinical development
- Management experience and understanding of challenges
- Extensive knowledge of a wide range of mental health issues
- Knowledge of current legislation
- Knowledge of trauma informed care
Meini prawf dymunol
- ANP/Prescribing
- Management qualification
- Medication management skills
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant supervisory experience
- Community, Hospital and acute experience
Meini prawf dymunol
- Providing presentations to large audiences with confidence
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent communication and IT skills
- Ability to lead a team confidently, professionally and sensitively
- Good care planning and problem-solving skills
- Excellence in risk assessing skills
- Ability to work to tight deadlines, balance conflicting issues with sensitivity/understanding, excellent clinical and management leadership skills
- Collaborative relationship building and MDT working
- Positive attitude - particularly towards those with sever and enduring mental health issues
- Reflective practitioner with ability to understand how one's experiences influence development. Ability to manage professional and personal stress
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh or willingness to learn
Other
Meini prawf hanfodol
- Enthusiastic and self-motivating
- Able to act on own initiative but escalate/seek advice when necessary
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Penny Price
- Teitl y swydd
- Service Manager - Acute Adult Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07973 879 795
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector