Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dietetics
Gradd
Gradd 4
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (oherwydd cyllido)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-ACS033-0424-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Montgomery County Infirmary
Tref
Newtown
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg

Gradd 4

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS  OHERWYDD CYLLIDO. 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

A oes gennych chi ddiddordeb yn faeth? Ydych chi’n frwdfrydig dros wella gofal iechyd i gleifion?  Mae cyfle wedi codi i weithio fel Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg (lleoliad yn hyblyg) i gefnogi sgrinio maeth cleifion mewnol i gyfyngu ar fregusrwydd a gwella canlyniadau iechyd. Byddwch yn cael eich cefnogi gan ein tîm clinigol cymunedol brwdfrydig a chyfeillgar yng Ngwasanaethau Deieteg ledled Powys.  

Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol neu secondiad lle byddwn yn ceisio casglu data i gefnogi cyllid parhaus trwy ddangos effaith a chefnogaeth i staff ward prysur, cleifion a theuluoedd.  Treulir amser yn ymweld â wardiau BIAP (wyneb yn wyneb lle bo'n ymarferol), neu dros TEAMS i hyrwyddo sgrinio maeth a chamau gweithredu priodol megis darparu atchwanegiadau, bwydydd cyfnerthedig a chysylltu â thimau iechyd ehangach. Mae sgiliau cyfathrebu, TG a gweithio mewn tîm cryf yn hanfodol, a fydd yn addas iawn i weithiwr cymorth gofal iechyd sy'n gyfarwydd â BIAP, sydd â diddordeb mewn maeth, ac sy'n ceisio datblygu’n bersonol. 

Cysylltwch neu e-bostiwch am sgwrs anffurfiol: 

Rhiain Morris (Deietegydd Clinigol Arweiniol)

[email protected]

01639 846428

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu cefnogaeth seiliedig ar dystiolaeth, tosturiol o ansawdd uchel i grŵp o gleientiaid ar ôl asesiad cychwynnol gan yr Ymarferydd Cofrestredig, gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n hybu iechyd ac annibyniaeth.
Dan arweinyddiaeth a chyfarwyddyd yr Ymarferydd Cofrestredig, sicrhau bod pob cleient yn cael asesiadau clinigol / asesiadau risg unigoledig priodol, gan roi adborth manwl gywir i’r tîm yn ôl y galw.
Monitro cyflwr y cleientiaid yn effeithiol, gan sylwi ar ddirywiad yn eu cyflwr corfforol neu feddyliol a chysylltu â’r Ymarferydd Cofrestredig mewn modd priodol ac amserol i adolygu/ ailasesu anghenion cefnogaeth yn ôl y galw.

Cyfrannu at asesiad parhaus y cleient gan roi gwybodaeth i ddarparu sail ar gyfer asesiadau a thrafod unrhyw newidiadau i’r gofal cynlluniedig â’r 
Ymarferydd Cofrestredig.
Dangos dulliau effeithiol o fynd ati i fonitro arwyddion a symptomau trallod, dirywiad neu welliant corfforol, meddyliol, gwybyddol, ymddygiadol ac emosiynol.  Gwerthuso effeithiolrwydd y gefnogaeth sy’n cael ei darparu a chysylltu â’r Ymarferydd Cofrestredig i gytuno ar newidiadau i’r cynllun cefnogi yn ôl y galw.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Fel Ymarferydd Cynorthwyol, mae disgwyl i ddeiliad y swydd reoli ei (g)waith a’i (l)wyth achosion ei hun yn annibynnol, gan wneud tasgau y mae Ymarferydd Cofrestredig yn eu dirprwyo gyda goruchwyliaeth briodol ar waith. Gyda dealltwriaeth o arfer seiliedig ar dystiolaeth a darparu cefnogaeth yn unol â’r dystiolaeth gyfredol, bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb am gymryd camau sy’n berthnasol i iechyd a gofal unigolyn, yn unol â pholisi a gweithdrefnau’r sefydliad.

Bydd cyfrifoldebau dirprwyedig yn cynnwys cyflenwi rhaglenni a grwpiau rhieni/ gofalwyr a chleientiaid, naill ai’n rhithiol neu wyneb yn wyneb, gan roi sylw i gyflyrau cyffredin oedolion ag awtistiaeth. Rheoli gwaith gweinyddu ac apwyntiadau rhaglenni a grwpiau.


Bod yn gyfrifol am rai elfennau o asesu, rhoi rhaglenni gofal ôl-ddiagnostig ar waith ac addasu cynlluniau cefnogi unigolion, gan adrodd yn ôl i’r Ymarferydd Cofrestredig. Mae’n bosibl y byddwch chi’n dirprwyo gwaith i eraill ac yn goruchwylio, addysgu ac asesu staff eraill. 

Mae’r gallu i yrru car a siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais. 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Certificate in Healthcare (120 Level 4 CQFW Credits) or NVQ Level 3/ A-Levels/ BTEC in Healthcare associated certificate with significant demonstrable experience in the field of specialism
  • Demonstrates an understanding of the role of Assistant Practitioner in the context of the weight management team and interdisciplinary team and the organisation
  • Demonstrates understanding of the importance of following procedures and treatment plans
  • Demonstrates knowledge of when to seek advice and escalate to the appropriate registered professional for expert help and advic
  • Demonstrates an understanding of the legislation related to Safeguarding
  • Good understanding of person-centred care
Meini prawf dymunol
  • Evidence of attendance at courses / study days pertinent to speciality
  • Experience within specialty

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Recent clinical experience of working within a relevant healthcare service environment
Meini prawf dymunol
  • Experience within specialty

Aptitude & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to function as an Assistant Practitioner without direct supervision
  • Ability to delegate
  • Able to undertake patient assessments within agreed competency and protocols
  • Ability to organise and prioritise own delegated workload
  • Ability to deal with nonroutine and unpredictable nature of workload and individual patient contac
  • Ability to develop effective and appropriate relationships with patients, their families, carers and colleagues
  • Ability to take part in reflective practice and clinical supervision activities
  • Ability to support, supervise, assess and act as a role model for Trainee Assistant Practitioners
  • Excellent verbal and nonverbal communication skills
  • Ability to actively listen and communicate sensitive or difficult information in a clear and compassionate manner
  • Information technology skills
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak WelshAbility to speak Welsh
  • Evidence of competence in clinical skills pertinent to specialty
  • Ability to effect change in a positive manner
  • Ability to diffuse difficult / threatening situations

Values/Other

Meini prawf hanfodol
  • Ability to demonstrate behaviours and attitudes which align to the Health Board’s Values and Behaviour Framework
  • Shows empathy and compassion towards others – a natural disposition to put yourself in someone else’s shoes
  • Sees and treats others as individuals (patient, families, colleagues) and treats people with dignity and respect
  • Shows resilience, adaptability and flexible approach as situations arise and positivity when times are tough
  • Shows respect for others’ views and appreciate others’ inputs and encourage colleagues to display our values
  • Motivated to use initiative to recognise problems and seek solutions whilst understanding the importance of empowering and enabling others (patients, families, colleagues)
  • Friendly and helpful disposition, awareness of how our own and others’ behaviours impact on people’s experiences and the organisation’s reputation
  • Willing to seek out learning, give and accept constructive feedback and committed to continuous improvement
  • Excellent timekeeping and a flexible approach to work
  • Able to apply and sustain mental effort required to carry out detailed work requiring high levels of concentration, multi-tasking, and emotionally supporting patients and their families
  • Can demonstrate an understanding of Health and Safety issues
  • Ability to travel between sites in a timely manner
Meini prawf dymunol
  • Awareness and understanding of the impact of weight stigma

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rhiain Morris
Teitl y swydd
Clinical Lead Dietitian
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01639 846428
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg