Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Tîm Triniaeth yn y Cartref Dementia (DHTTP)
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm amlddisgyblaeth sy’n gweithio gydag unigolion sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yn gyfrifol am asesu anghenion gofal ac am ddatblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal i gleifion yn y gymuned.
Gan ddefnyddio dull tîm o weithredu a gweithio gyda llwyth achosion bach, bydd deiliad y swydd yn gweithio’n hyblyg, yn ddwys, yn greadigol ac yn ymatebol i anghenion cleientiaid. Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau bod yna gysylltiadau da gydag eraill ym maes dynodedig y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Dementia a chydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill perthnasol.
Mae’n bosibl y bydd gan unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth anghenion iechyd meddwl cymhleth. Nod ymyriadau ydy eu helpu nhw i helpu eu hunain trwy ddatblygu ffyrdd o ymdopi, yn ymarferol ac yn seicolegol, trwy sicrhau bod pecynnau iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel yn cael eu darparu sy’n diwallu anghenion pob unigolyn. Caiff cynlluniau gofal eu gwerthuso o ran eu heffeithiolrwydd dan y dull rhaglen ofal cyffredinol o weithredu, â’r nod o hybu iechyd meddwl da, a bydd deiliad y swydd yn gweithio oriau estynedig ac anghymdeithasol er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan fel aelod gweithgar o’r tîm cymunedol, gan gymryd rôl gweithiwr allweddol ar gyfer cleifion fel y cytunir arno ag Arweinydd y Tîm a bydd hefyd yn gyfrifol am lwyth achosion y tîm pan fo Arweinydd y Tîm yn absennol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Hybu agwedd bositif tuag at iechyd a gweithio’n benodol i atal iechyd corfforol a seicolegol gwael.
Gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth, gan gyfarwyddo, annog ac arwain therapïau a sicrhau eu bod yn cael eu cyflenwi’n effeithiol. Sicrhau y cynhelir amgylchedd therapiwtig effeithiol bob amser.
Heb oruchwyliaeth uniongyrchol, gwneud dyletswyddau penodol yn unol â gweithdrefnau cytunedig y Tîm a allai gynnwys prosesu atgyfeiriadau i’r tîm, cynghori a chyfeirio atgyfeirwyr at wasanaethau mwy priodol.
Paratoi ar gyfer cyfarfodydd priodol y tîm clinigol a chyfarfodydd amlbroffesiwn eraill a chyfrannu atyn nhw, gan arwain cyfarfodydd clinigol ac anghlinigol o’r fath yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr y Tîm Trin Dementia yn y Cartref neu pan fydd yn absennol.
Trafod unrhyw agweddau ar waith sy’n achosi pryder â Rheolwr y Tîm Trin Dementia yn y Cartref.
Gweithio i'n sefydliad
Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal cleientiaid o safon uchel, gan ddefnyddio model gofal cydnabyddedig. Dal llwyth achosion bach ond gweithio gyda’r holl gleientiaid y mae’r tîm yn gyfrifol amdanyn nhw, gan fod yn hyblyg, creadigol ac ymatebol i anghenion cleientiaid wrth reoli argyfwng. Parhau i ddarparu asesiadau manwl gywir o’r achosion hyn er mwyn penderfynu ar addasrwydd ymyrraeth barhaus y Tîm Trin Dementia yn y Cartref.
Cymryd rôl frysbennu wrth sgrinio atgyfeiriadau a blaenoriaethu cyfrifoldebau’r tîm. Arwain trafodaethau’r tîm ynglŷn â dyrannu atgyfeiriadau yn unol â gweithdrefnau ac arfer cytunedig.
Datblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gofal sy’n briodol i anghenion newidiol a chymhleth cleientiaid, gan sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu cyfathrebu a’u trafod ar y cyd â gweddill y tîm, y Cydlynydd Gofal, y cleient ac eraill sydd â wnelo â’r gofal, fel bo angen. Gweithio ar eich liwt eich hun wrth gydlynu gwaith aelodau eraill o’r tîm iechyd a gofal cymdeithasol, a’u cael gyfrannu, i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu’n effeithiol
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rheoli’r amgylchedd gweithio’n effeithlon ac effeithiol, yn barhaus.
Rheoli gwaith bob dydd staff cofrestredig a’r rheini sydd heb gofrestru sydd ar secondiad neu sydd wedi’u dyrannu i ddeiliad y swydd.
Dirprwyo’n briodol a goruchwylio gofal y mae darparwyr iechyd/ gofal cymdeithasol yn ei ddarparu, gan gynnwys myfyrwyr, er mwyn diwallu anghenion dynodedig cleientiaid yn unol â chymhwysedd staff.
Cyfrannu at reoli’r Tîm Trin yn y Cartref yn glinigol ac yn weithredol trwy fynychu cyfarfodydd i roi barn broffesiynol.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Diploma/Degree in Mental Health Nursing, or equivalent (RMN) and NMC registration/ Degree level Social care qualification Degree in Occupational Therapy
- High level of assessment/ risk assessment/ planning and evaluation skills necessary for working with acute Mental Health crisis
- CTP working practices Mental Health Act and other relevant legislation POVA/safeguarding
- Sound understanding of Mental Health Measure
- Sound understanding of Mental Health Measure
- Evidence of clinical and professional post qualification training and development
Meini prawf dymunol
- AOTMH member, Fieldwork educator certificate Thorn Diploma/Degree
- IT Skills
- Brief Family Therapy qualification/Training
- Cognitive Behavioural qualification/Training
- Counselling qualification/Training
- Clinical Supervision qualification/Training
- Venepuncture
Experience
Meini prawf hanfodol
- Relevant experience in Mental Health care
- Experience of giving and/or receiving supervision
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Commitment to Home Treatment model
- Positive value base
- Good team worker
- Promote recovery
- Self-motivated
- Belief in inherent strengths of service user
- Prepared to embrace change
- Supportive of diversity of other’s needs, opinions and values
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Ability to demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel within a geographical area
- Excellent verbal and written communication skills
- Ability to work flexibly within 24-hour shift pattern
Meini prawf dymunol
- Ability to speak / write Welsh
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julie jones
- Teitl y swydd
- Dementia Home Treatment Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01686 613249
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector