Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Administrator Integrated Autism and ADHD Service
Band 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 9 MIS OHERWYDD CYLLIDO.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous, prysur a heriol iawn ac rydym yn chwilio am Weinyddwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio o fewn y tîm i weithredu fel pwynt derbyn cyntaf i holl atgyfeiriadau (gan gynnwys hunanatgyfeiriadau).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddilyn systemau, polisïau a gweithdrefnau priodol wrth sicrhau bod data’n cael ei gofnodi’n effeithlon ac yn gywir. Mae sgiliau TGCh/teipio rhagorol, sgiliau cyfathrebu amserol a medrus yn hanfodol i sicrhau bod profiad y defnyddiwr o ansawdd uchel o hyd.
Bydd angen gweithio gyda chryn fanwl gywirdeb, brwdfrydedd, hyblygrwydd a chadernid er mwyn gweithio o fewn gwasanaeth blaengar sy’n datblygu o hyd. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithlon, meithrin perthynas a chydberthnasau effeithiol ar bob lefel yn hanfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Cefnogi holl anghenion gweinyddol y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Dyletswyddau clerigol cyffredinol sy'n briodol i'r rôl i gynnwys derbynfa, llungopïo, archebu riportio diffygion, ffeilio, trefnu apwyntiadau, sganio, delio â'r post.
Teipio gohebiaeth glinigol yn rheolaidd.
Datblygu systemau a thempledi i gefnogi a threfnu gweithgaredd IAS gan gynnwys amserlennu apwyntiadau.
Cysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd, Meddygon Teulu ac atgyfeirwyr eraill ynghyd â gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol i ddarparu asesiad, diagnosis, cymorth a gofal integredig.
Manyleb y person
Education and Training
Meini prawf hanfodol
- Reasonable standard of education at GSCE level or equivalent experience in admin/secretarial role
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Advanced knowledge of MS Office based application inc Excel, Outlook and Word
- Setting up new systems and procedures (electronic and manual)
Skills and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent communication and interpersonal skills, both verbally and in written form
- Proficient in organizing and prioritising own workload
- Confident to liaise with a range of colleagues at all levels, internal and external
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Confident to liaise with a range of colleagues at all levels, internal and external
- High degree of confidentiality and discretion
- Able to create effective working relationships
Other
Meini prawf hanfodol
- Able to work across several PTHB sites as required
- Ability to travel
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Edwards
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 712752
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector