Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gymuned/Nyrs Ardal
Band 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Nyrs Staff Gymunedol yn gyfrifol am ddarparu gofal nyrsio rhagnodedig i gleifion o ddydd i ddydd. Byddai hyn yn cynnwys asesiad holistaidd o
anghenion gofal cleifion a datblygu, gweithredu a gwerthuso gofal ar sail
tystiolaeth.
Bydd gan ddeiliad y swydd ymreolaeth yn ei ymarfer clinigol wrth gydnabod
terfynau alluoedd a mynd ati i ofyn am gyngor yn ôl yr angen.
Tymor penodol tan 06/09/2024 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Os ydych chi'n ymgeisydd mewnol dim ond ar sail secondiad y bydd y swydd hon yn cael ei chynnig a bydd angen i chi fod wedi derbyn cymeradwyaeth eich rheolwr llinell ar gyfer yr secondiad cyn mynd i gyfweliad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU :
Prif Ddyletswyddau
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i’r Tîm Nyrsio Ardal wrth reoli pecynnau amlddisgyblaethol / amlasiantaethol o ofal wedi'u trefnu a heb eu trefnu i gleifion ag anghenion gofal lluosog, cymhleth a lliniarol o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn sicrhau darparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i’r boblogaeth.Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am flaenoriaethu ymweliadau cartref dirprwyedig yn unol ag angen clinigol a lleoliad daearyddol y cleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Manyleb y person
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel between sites in a timely manner
- Good IT skills
- Excellent organisational skills
- Ability to deal with complex/stressful situations
Meini prawf dymunol
- Local knowledge of statutory and voluntary services
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- A high level of interpersonal and communication skills
- Ability to engage with members of the public
- Ability to work independently and as part of a team - to include the wider MDT
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Experience
Meini prawf hanfodol
- Evidence of a wide range of clinincal skills
Meini prawf dymunol
- Competence and confidence in a wide range of clinical skills including: palliative care, chronic disease management, wound management
Qualifications and knowledge
Meini prawf hanfodol
- NMC Registered Nurse
- Evidence of continuing professional development
- Mentorship role
Meini prawf dymunol
- Working towards diploma / degree / masters qualification in CHS (District Nursing) Specialist Practitioner DN
- Working towards supplementary Nurse Prescriber qualification
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eleri Jones
- Teitl y swydd
- District Nurse Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01654705238
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Emma Davies - Arweinydd tim Nyrses Ardal
Tel: 01686613255
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector