Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Gweinyddo
Gradd 2
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol/y brif ddesg cynhwysfawr i’r adran.
Bydd hyn yn cynnwys;
• Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i’r adran.
• Ateb galwadau ffôn a nodi negeseuon yn gywir.
• Delio ag ymholiadau arferol ac arbenigol mewn modd dymunol a defnyddiol,
trwy gyfathrebu gwybodaeth berthnasol i’r adrannau/person priodol,
gan atgyfeirio at eraill lle bo hynny hefyd yn briodol.
• Llungopïo a phrosesu dogfennau, llythyron, e-byst, cofnodion ac adroddiadau lle bo angen.
• Diweddaru systemau electronig a systemau papur, casglu gwybodaeth, dosbarthu post a logio ac ati.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Delio gyda, a throsglwyddo galwadau yn ôl yr angen mewn modd proffesiynol a chwrtais, gan weithredu fel llysgennad i’r sefydliad ym mhob agwedd o gyfathrebu.
Bydd hyn yn cynnwys;
• Darparu a derbyn gwybodaeth arferol gan aelodau staff, cleifion ac
asiantaethau allanol eraill. Bydd amgylchiadau’n codi pan fydd y galwr
yn orbryderus, yn yr achos hwn bydd deiliad y swydd yn defnyddio, sgiliau tawelu meddwl a diplomyddiaeth.
• Casglu, agor a chydnabod post ac e-byst o fewn terfynau amser penodedig.
• Cofnodi negeseuon yn gywir a'u hanfon ymlaen yn amserol at y person perthnasol.
• Ymateb i, a datrys problemau bob dydd sy'n codi o fewn yr adran,
a hefyd ymateb i ymholiadau gan uwchgyfeirio lle bo angen.
• Ymateb a chyfleu gwybodaeth gyfrinachol am gleifion i adrannau eraill, asiantaethau allanol, cleifion a gofalwyr er mwyn hwyluso gofal a chymorth i'r timau clinigol.
• Trin gwybodaeth gyfrinachol gyda disgresiwn ac yn unol â gofynion diogelu data.
• Cymryd cofnodion/nodiadau gweithredu o gyfarfodydd ad hoc yn ôl yr angen.
• Bydd y gwaith a wneir yn cael ei adolygu ar adegau y cytunir arnynt.
Croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu safon uchel o gymorth gweinyddol i'r gwasanaeth i;
• Gynhyrchu dogfennau, gohebiaeth, posteri, taflenni, cyflwyniadau ac ati.
• Mewnbynnu gwybodaeth i systemau electronig, gan gynnal cywirdeb.
• Creu cronfeydd data ar gyfer cofnodi gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer
anghenion gweinyddol yr adran.
• Trefnu a chynllunio llwyth gwaith er mwyn cwrdd ag anghenion y gwasanaeth,
blaenoriaethu lle bo’n briodol.
• Defnyddio menter i ymdrin ag ymholiadau neu faterion, gan uwchgyfeirio pan fo angen.
• Llungopïo, sganio, ffeilio, archifo, teipio llythyrau, adroddiadau, nodiadau cyfarfodydd,
mewnbynnu data ac adalw gwybodaeth, y gall rhai ohonynt fod o natur hynod gyfrinachol a/neu sensitif.
• Cynllunio, trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau, ymweliadau, gan gynnwys trefnu teithio/llety yn ôl yr angen.
• Monitro a chynnal lefel ddigonol o stoc mewn perthynas ag offer swyddfa yn rheolaidd, ac ail-archebu pan fo angen.
• Bydd deiliad y swydd yn cael ei arwain gan bolisïau, protocolau a gweithdrefnau galwedigaethol diffiniedig.
• Dangos ei rôl ei hun i aelodau newydd o staff.
• Cynnal arolygon ac archwiliadau yn ôl yr angen ar gyfer eich rôl eich hun.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Educated to GCSE level or literacy/numeracy at level 1or equivalent
- rsa/ocr11 qualification or equivalent demonstrable skills
Meini prawf dymunol
- nvq business administration level 2
- knowledge of data protection protection act
Experience
Meini prawf hanfodol
- experience producing correspondence, use of IT software
- experience customer service and office practices and new processes
Meini prawf dymunol
- previous experience in office
aptitudes and abilities
Meini prawf hanfodol
- Can work with team and as individual
- Good communication, positive attitude and able to manage challenging conversations in polite manner
Meini prawf dymunol
- speak welsh
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eleri Jones
- Teitl y swydd
- District Nurse Team leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01654705238
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel carton
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector