Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Meddygol a Deintyddol
- Gradd
- Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - A
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 070-MD012-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Glan Irfon
- Tref
- Llanfair ym Muallt
- Cyflog
- £47,914 - £71,871 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Swyddog Deintyddol
Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gwasanaeth deintyddol cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio i recriwtio swyddog deintyddol rllawnamser ar gyfer hyd at 5 diwrnod yr wythnos, wedi’i leoli yn y Llanfair ym Muallt. Byddwch yn rhan o wasanaeth deintyddol cymunedol blaengar ac arloesol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau deintyddol sy'n caniatáu i'r gweithiwr llwyddiannus weithio ochr yn ochr â chydweithwyr arbenigol gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ychwanegol.
Mae BIAP yn fwrdd iechyd arloesol ac mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn ymfalchïo mewn annog cydweithio yn enwedig er mwyn rhannu sgiliau. Mae gan y staff fynediad at offer a deunyddiau modern. I grynhoi os ydych am weithio gyda thîm cyfeillgar cefnogol ac ymarfer deintyddiaeth glinigol hyd eithaf eich gallu gyda chyfleoedd hyfforddi, yna ystyriwch wasanaeth deintyddol cymunedol Powys. Mae Powys yn rhan hyfryd o Gymru gyda golygfeydd ysblennydd a’r gallu i fyw bywyd tawel, lle nad oes traffig y ddinas yn bodoli!
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhan sylweddol o'r rôl hon fydd darparu ystod gynhwysfawr o ofal deintyddol GIG ar gyfer oedolion a phlant cymwys ym Mhowys, gan gynnwys cleifion GDS. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn darparu cwrs o driniaeth i gleifion nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol cyffredinol. Fel rhan o’r tîm ehangach, byddwch hefyd yn cefnogi gweddill y tîm i helpu gwella mynediad a lleihau amseroedd aros o fewn y gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i swydd ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Appropriate graduate qualification or equivalent in Dentistry
- Registration with the GDC as a Dentist
Experience
Meini prawf hanfodol
- Ability and experience to deal with acute dental problems
- Current knowledge of dental surgery techniques, procedures, materials and concepts
- Eligible for a Welsh Performer Number
Meini prawf dymunol
- Experience of NHS GDS regulations
Aptitude and Ability
Meini prawf hanfodol
- Excellent communicator
- Ability to achieve and maintain professional standards
Meini prawf dymunol
- Ability to readily understand and analyse information
- ICT skills
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Heidi Thomas
- Teitl y swydd
- Assistant Clinical Dental Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615640
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Heidi Thomas ar 01874615640.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a deintyddol neu bob sector